果冻传媒app

Gadael yr UE

GADAEL YR UNDEB EWROPEAIDD (UE)

Mae'r Deyrnas Unedig i fod i adael yr UE ar 31 Hydref 2019.

Ni wyddom eto pa effaith yn union a gaiff gadael yr UE gyda neu heb gytundeb ar breswylwyr lleol, busnes a'r gymuned ehangach ym Mlaenau Gwent.

Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth a chyngor ar gyfer unigolion, busnesau a sefydliadau ar amrywiaeth o feysydd, yn cynnwys addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, busnes a'r economi.

Paratoi ar gyfer Brexit

Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau cyfagos a sefydliadau eraill i sicrhau y gwyddom am y datblygiadau diweddaraf a rhoi cynlluniau yn eu lle ar gyfer paratoi ar gyfer holl sefyllfaoedd Brexit a sicrhau fod ein gwasanaethau yn rhedeg yn llyfn.

Busnesau

Os ydych yn berchennog busnes neu'n gyfrifol am gynllunio yn eich man gwaith, mae yn nodi'r camau y dylech eu cymryd i baratoi eich busnes ar gyfer effaith posibl gadael yr UE heb gytundeb.

Mae hefyd fwy o wybodaeth gyffredinol yma am sut y gellid effeithio ar fusnesau wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr UE:

Os ydych yn fusnes a all fod angen Tystysgrifau Iechyd Allforio ar gyfer allforio cyflenwadau o fwyd a chynnyrch anifeiliaid i'r Undeb Ewropeaidd mewn sefyllfa Dim Cytundeb, mae mwy o wybodaeth ar gael yma:-

Dinasyddion yr UE

Os ydych yn ddinesydd yr UE heb ddinasyddiaeth Brydeinig yn byw yn y Deyrnas Unedig, bydd angen i chi ac aelod(au) teulu wneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i sicrhau Statws Preswylydd Sefydlog (os ydych eisoes wedi bod yn breswyl yn y Deyrnas Unedig am 5 neu fwy o flynyddoedd) neu Statws Preswylydd Cyn-Sefydlog (os gwnaethoch gyrraedd y Deyrnas Unedig lai na 5 mlynedd yn 么l).

Y dyddiad cau i wneud cais yw 31 Rhagfyr 2020.

Ar gyfer dinasyddion yr UE neu berchnogion busnes sy'n cyflogi ac yn recriwtio o'r UE, mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi cyngor defnyddiol ar Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE:-

  • (ar gyfer y rhai na all wneud cais ar-lein)

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio Gwasanaeth Cyngor Mewnfudo yn arbennig ar gyfer Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn:

Mae llinell gymorth os ydych angen help gyda neu wybodaeth am geisiadau cynlluniau preswylio'n sefydlog:-

Ff么n: 0300 123 7379
Dyddiau Llun i ddyddiau Gwener (ac eithrio gwyliau banc): 8am i 8pm
Dyddiau Sadwrn a Sul: 9:30am i 4:30pm

I gael deunyddiau gwybodaeth mewn 26 o ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd, yn cynnwys y Gymraeg, ewch i

Teithio Dramor

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ar 么l Brexit, yn cynnwys gwybodaeth am basbortau, cyngor ar deithio, pasbortau i anifeiliaid anwes a ffioedd crwydro ffonau symudol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn