¹û¶³´«Ã½app

Cyllid Ewropeaidd ac Allanol

Cyllid Ewropeaidd 

Mae'r holl wybodaeth berthnasol am y cylch presennol o Gyllid Buddsoddi Ewropeaidd a Strwythurol ar gyfer 2014-2010 ar gael ar dudalennau gwefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Nod Rhaglen Cyllid Cymdeithasol a Buddsoddi Ewrop 2014-2020 yw cefnogi swyddi, twf busnes a gwella sgiliau'r gweithlu yn ogystal ag annog arloesedd a dulliau newydd i fynd i'r afael â thlodi yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. 

Mae cyfres o ffilmiau byr i ddangos y math o brosiectau yn Ne Ddwyrain Cymru a gaiff eu cefnogi gan gyllid Ewropeaidd ar gael ar Youtube.

Ysbrydoli 

Mae Blaenau Gwent yn arwain dau gynllun y Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yn Ne Ddwyrain Cymru, Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio. Nod y ddau brosiect yw atal pobl rhag dod yn NEET (heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) drwy gydlynu darpariaeth ymysg chwe Awdurdod Lleol, pedwar Coleg a Gyrfa Cymru. 

Cynllun Datblygu Lleol 

Mae Blaenau Gwent yn cydweithio gyda Chyngor Bwrdeisdref Sirol Caerffili yng Nghynllun Datblygu Gwledig 2014-2020. Gellir gweld y Strategaeth Datblygu Lleol ar gyfer Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd yma. 

Cyllid Ewropeaidd arall 

Yn ogystal â chyllid ES&I, mae llawer o raglenni Ewropeaidd eraill yn cynnig cyfleoedd mewn amrywiaeth o ardaloedd. 

Busnes

 

Gorwel 2020

Mae Gorwel 2020 yn Rhaglen Ymchwil ac Ewropeaidd £80 biliwn gan yr Undeb Ewropeaidd gyda phwyslais ar gefnogi rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth, arweinyddiaeth ddiwydiannol a mynd i'r afael â heriau cymdeithasol. Fel y Cronfeydd Strwythurol, mae'r Rhaglen yn rhedeg rhwng 2014-2020.

 

COSME

Rhaglen sy'n anelu i helpu busnesau bach a chanolig gyda mynediad i gyllid a marchnadoedd.

Cyfleuster Cysylltu Ewrop

Rhaglen sy'n cefnogi datblygu rhwydweithiau traws-Ewropeaidd rhyng-gysylltiedig perfformiad uchel, cynaliadwy ac effeithiol yn y meysydd ynni, telathrebu a thrafnidiaeth.

 

Addysg

Rhaglen saith mlynedd gyda chyllideb o €14.7 biliwn, dyma Raglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Addysg, Hyfforddiant, Ieuenctid a Chwaraeon. Mae'n ariannu partneriaethau rhyngwladol sy'n cefnogi partneriaethau ymysg sefydliadau Addysg, Hyfforddiant ac Ieuenctid.

 

Diwylliant

Ewrop Greadigol

Rhaglen €1.5 biliwn i gefnogi'r sectorau creadigol/diwylliannol a chlywedol

 

Amgylchedd

LIFE yw'r offeryn ariannol €3.4 biliwn sy'n cefnogi prosiectau Amgylchedd, Cadwraeth Natur a Newid Hinsawdd/Gweithredu yn yr Undeb Ewropeaidd

 

Grantiau Allanol Eraill

Mae llawer o ffynonellau posibl o grantiau, gyda phob un ohonynt yn canolbwyntio ar eu blaenoriaethau penodol eu hunain. 

Mae cysylltu â GAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent) yn lle da i ddechrau i gael help gyda grantiau llai a gyda ffocws ar y gymuned,

I gael cyngor ar grantiau a benthyciadau busnes, y man cyntaf i'w alw yw Busnes Cymru

Rhestrir rhai o'r darparwyr grantiau mwyaf poblogaidd ym Mhrydain a'r Deyrnas Unedig:






Gwybodaeth Gyswllt

Enw'r Tîm: Prosiectau Strategol

Rhif Ffôn: 01495 355717

E-bost: david.ware@blaenau-gwent.gov.uk