Cipolwg ar y dyfodol
Mae Blaenau Gwent yn datblygu i fod yn ganolfan uwch-dechnoleg ar gyfer datblygu technolegau newydd a gweithgynhyrchu uwch, gydag isadeiledd newydd, band eang cyflym iawn, a detholiad o adeiladau ar gyfer cwmnïau o bob maint – ynghyd â chefnogaeth fusnes lawn.
Mae gwaith tîm yn hanfodol, gyda Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £100m dros ddegawd i greu dros 1,500 o swyddi*, tra ein bod ni’n cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, y diwydiant a chyrff academaidd i fuddsoddi yn yr isadeiledd a’r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau llwyddiant.
Y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Thales, y cwmni technoleg rhyngwladol, i sefydlu canolfan seibr gwerth £20m sydd wrth wraidd y Cymoedd Technoleg. Sefydlwyd y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC) yn 2019, yn ei gartref pwrpasol. Dyma’r ganolfan ymchwil a datblygu cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae’n darparu’r lleoliad perffaith i fusnesau bach a chanolig a microfusnesau i brofi a datblygu eu cysyniadau digidol.
Mwy nag enw yn unig
Mae’r Cymoedd Technoleg yn fwy na gweledigaeth yn unig. Mae’n digwydd ar hyn o bryd. Rydyn ni wedi buddsoddi miliynau yn ddiweddar i wneud hwn yn lle hynod ddeniadol i weithredu busnes.
Nid yw’r Cymoedd Technoleg yn bodoli mewn gwactod. Mae’n rhan o bortffolio cyfun o brosiectau sy’n gweithio gyda’i gilydd. Glyn Ebwy yw lleoliad un o wyth Ardaloedd Menter Cymru, sy’n golygu ei fod yn ardal flaenoriaethu o ran cymorth busnes, sgiliau, isadeiledd o’r radd flaenaf, cymhellion ariannol, a chyfleoedd eiddo a datblygu. Mae’n rhan o ardal ehangach Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sef prosiect sy’n buddsoddi £1.2bn o arian cyhoeddus er mwyn denu gwerth £4bn mewn buddsoddiad preifat ar draws de-ddwyrain Cymru.
Mae tîm busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r hyn sydd ei angen. Fel llywodraeth ddatganoledig, nid oes angen i ni aros i San Steffan wneud penderfyniadau, felly gallwn weithredu’n gyflym er mwyn helpu busnesau i sefydlu a ffynnu.
Mae popeth yn ei le
Mae gennym gysylltiadau ardderchog, ym mhob synnwyr.
Mae cyfathrebiadau cyflym yn darparu cysylltedd ar unwaith gyda’r byd, tra bod ffordd ddeuol newydd yr A465 yn cynnig cysylltiad corfforol cyflym. Er nad yw’r boblogaeth leol ar frys i adael: mae’r rhan hwn o Gymru yn cynnwys rhai o’n hoff lefydd.
Mae ansawdd bywyd yn bwysig tu hwnt, hefyd.
Mae hygyrchedd y rhanbarth yn golygu cysylltiadau ffordd, rheilffordd ac awyr cryf i gwsmeriaid a chyflenwyr yn y DU, Ewrop a thu hwnt.
Sgiliau'r dyfodol
Bydd y chwyldro nesaf yn cael ei yrru gan wybodaeth.
Mae diwydiannau technoleg yn dibynnu ar weithlu clyfar a medrus sy’n meddu ar y sgiliau cywir. Mae’r system addysg leol yn paratoi’r genhedlaeth nesaf ar gyfer swyddi sgiliau uchel a gwerth uchel.
Lleolir un o chwe champws Coleg Gwent, sef yr Ardal Ddysgu, ar safle'r Gweithfeydd yng Nglyn Ebwy. Maent yn cynnig 32 cwrs Lefel A, dros 150 o gyrsiau galwedigaethol amser llawn, a 36 o gyrsiau lefel prifysgol. Mae pwyslais amlwg ar ddarparu boddhad personol a’r sgiliau bywyd go iawn sydd eu hangen ar gyflogwyr. Yn ogystal, maent yn cydweithio â busnesau a sefydliadau lleol fel Aspire Blaenau Gwent i ddarparu prentisiaethau arobryn.
Gofod i dyfu
Mae’n hawdd tyfu busnes fan hyn.
Mae Ardal Fenter wrth wraidd y Cymoedd Technoleg, sy’n cynnig digon o gyfleoedd i ehangu. Mae nifer o’r unedau yn barod i’w defnyddio ar unwaith. Ar safleoedd mwy, mae’r tir wedi cael ei baratoi a ffyrdd a gwasanaethau wedi cael eu gosod.
Dyma ardal sydd â photensial di-ben-draw i fusnesau newydd, busnesau sy’n tyfu a datblygwyr.
Nid oes cyfyngiadau ar uchelgais.
Amrywiol, hyblyg a diogel at y dyfodol
Mae gennym ofod masnachol o’r radd flaenaf i ddiwallu anghenion pob math o gwmnïau, o’r lleiaf i’r mwyaf, ar bob cam o’u cylch twf. Gallwch ddechrau ar ddesg sengl mewn swyddfa â gwasanaeth, a datblygu eich syniad mawr nes bod angen ystâd ddiwydiannol gyfan arnoch.
Mae gan Flaenau Gwent ddetholiad rhagorol o eiddo masnachol a thir i weddu i bob math o fusnes, sydd wedi’i wasgaru ar draws 19 o barciau busnes ac ystadau diwydiannol. Yn ogystal, mae yna safleoedd datblygu mewn perchnogaeth gyhoeddus a phreifat.