Mae’n anghyfreithlon ysmygu yn yr holl lefydd cyhoeddus yng Nghymru gydag eithriadau prin. Mae’r gyfraith yn gymwys ar gyfer tafarndai, clybiau, bwytai, bariau, canolfannau siopa, gweithleoedd a thrafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys cysgodfeydd bws a gorsafoedd bws.
Mae’n rhaid i gyflogwyr, rheolwyr a’r rheiny â rheolaeth dros safleoedd arddangos arwyddion dim ysmygu ac atal unrhyw un rhag ysmygu ar eu safleoedd. Os methant â gwneud hyn, gallent wynebu dirwy. Gall unigolion hefyd dderbyn dirwy neu rybudd penyd sefydlog o £50 os ysmygant mewn safleoedd di-fwg.
Amcangyfrifir bod anadlu mwg ail-law yn cynyddu’r risg o ganser yr ysgyfaint mewn oedolion nad ydynt yn ysmygu o 24% a chlefyd y galon mewn oedolion nad ydynt yn ysmygu o 25%.Mae ysmygu goddefol hefyd yn achosi clefydau anadlol ac asthma mewn oedolion nad ydynt yn ysmygu a phlant.
Rhoi gwybod am rai nad ydynt yn cydymffurfio
Bydd y Cyngor yn delio ag unrhyw gwynion ac mae ganddo’r pwerau i gael mynediad i safle i sefydlu a gydymffurfir â’r ddeddfwriaeth. Gallwn roi rhybuddion penydau sefydlog i unrhyw un rydym ni’n credu sydd, neu sydd wedi cyflawni trosedd dan y gyfraith.
Angen help i roi’r gorau i ysmygu?
Os mai ‘Oes’ yw’r ateb, cysylltwch â
- Llinell Gymorth Ysmygwyr Cymru ar 0800 169 0 169
- Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu Cymru Gyfan ar 0800 086 2219
Am wybodaeth bellach:
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm: Commercial Team
Rhif Ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad: Public Protection – Environmental Health, Commercial Team, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk