¹û¶³´«Ã½app

Pryder a chwynion I&D

Mae Gwasanaeth iechyd yr Amgylchedd yn cyflawni arolygon iechyd a diogelwch i sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o’u dyletswyddau cyfreithiol ac asesu cydymffurfiaeth gyda’r Ddeddf iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a rheoliadau cysylltiedig. 

Rydym yn arolygu safleoedd megis siopau, warysau, llefydd a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau hamdden a safleoedd eraill heb fod yn ddiwydiannol. Pe byddech yn hoffi gwneud cwyn neu os ydych yn pryderu ynghylch iechyd a diogelwch ar safle, defnyddiwch y cyswllt hwn, os gwelwch yn dda, i adael i ni wybod.

Arolygir safleoedd diwydiannol mwy o faint, megis ffatrïoedd gan fel y mae gweithgareddau megis gwaith adeiladu a dymchwel.

Arolygir safleoedd ar amlder a benderfynir gan y peryglon sy’n gysylltiedig â’r gweithle hwnnw a pha mor dda y rheolir y peryglon. Bob blwyddyn fe ddatblygwn gynllun gwaith sy’n adlewyrchu materion a nodwyd fel rhai yn corffori risg Iechyd a Diogelwch. Gellir gweld copi o’r cynllun gwaith cyfredol ar :Cyswllt i gynllun gwaith. 

Beth i’w ddisgwyl yn ystod yr arolwg

Gwneir arolygon fel arfer yn ddirybudd gyda rheolwr y busnes. Gallai’r arolygwr hefyd ddymuno siarad â chyflogeion, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr undebau llafur a phartïon eraill â diddordeb. 

Yn ystod yr arolwg bydd y swyddog yn gofyn am archwilio’r gwaith papur megis: 

  • Polisi iechyd a diogelwch y cwmni
  • Asesiad Risg
  • RhSBI(rheoli sylweddau sy’n beryglus i iechyd)
  • Llyfr / cofnodion damweiniau
  • Cofnodion hyfforddiant
  • Cofnodion cynnal a chadw, er enghraifft, y gweithle a chyfarpar gwaith
  • Adroddiadau arolygon mewnol
  • Tystysgrifau, er enghraifft, gosodiadau trydanol ac archwiliadau o beiriannau nwy
  • Gweithdrefnau brys 

Gwneir arolwg ffisegol hefyd o’r gweithle i benderfynu:- 

  • Cyflwr/glanweithdra’r safle megis strwythur allanol a muriau mewnol, lloriau, nenfydau, ffenestri, llwybrau traffig, gosodiadau a gosodion
  • Darparu cyfleusterau lles megis toiledau, cyfleusterau golchi/sychu, dŵr yfed, ystafelloedd gorffwys a lle i storio dillad
  • Cyflwr yr ardaloedd tu allan megis meysydd parcio, llwybrau cerddwyr
  • Cysur yn y gweithle megis gwres, awyru, goleuo, gweithfannau, maint ystafelloedd a gofod
  • Cyflwr a lleoliad cyfarpar gwaith 

Yn dilyn yr arolwg 

Ar ddiwedd yr arolwg bydd y swyddog yn eich cynghori chi

ynghylch ei gasgliadau/ei chasgliadau a bydd y swyddog yn cyflwyno adroddiad wedi’r ymweliad yn amlinellu’r gofynion angenrheidiol i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. 

Mewn rhai achosion, gallai fod yn angenrheidiol cymryd camau ffurfiol yn syth os gwêl y swyddog unrhyw beth sy’n golygu risg ddifrifol i iechyd a / neu ddiogelwch. 

Gellid cyflwyno hysbysiadau gwelliant lle mae’r swyddog o’r farn bod person (au) yn torri gofynion cyfreithiol. Bydd y rhybudd yn amlinellu beth sydd o’i le ac yn gosod amserlen ar gyfer cydymffurfio. 

Gellid cyflwyno hysbysiadau gwahardd lle mae risg ddifrifol o anafiadau personol. Mae’r hysbysiad yn cyfeirio person i beidio â chyflawni gweithgareddau penodol. 

Mae gwahardd hefyd yn ddewis lle mae’r gyfraith yn cael ei hanwybyddu’n agored, iechyd a diogelwch yn cael eu diystyru’n ddi-hid, tor-amodau cyson neu fethiant i gydymffurfio â hysbysiadau. 

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Commercial Team

Rhif Ffôn: 01495 369542

Cyfeiriad: Public Protection – Environmental Health, Commercial Team, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk