¹û¶³´«Ã½app

Tatwio, Aciwbigo, Electrolysis a Thyllu Colurol

Os ydych yn cynnig tatŵau, lliwio croen lled-barhaol, tyllu cosmetig, nodwyddo neu electrolysis, mae’n rhaid i chi a’r adeilad rydych yn gweithio ynddo, fod yn gofrestredig gyda’r Cyngor. 

Unwaith y byddwch wedi’ch cofrestru, fe gyflwynir i chi dystysgrif gofrestru. 

Pwy All Wneud Cais? 

Mae’n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth benodol gan gynnwys manylion eich adeilad ac unrhyw euogfarnau blaenorol am ymarfer heb gofrestru. 

Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?

Is-ddeddfau Tyllu, Electrolysis ac Aciwbigo
Is-ddeddfau Tatŵio

A oes yn rhaid i fi dalu ffi am wneud cais? 

Oes. Y ffi ar hyn o bryd yw £165.48

Faint fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol? 

Bydd eich cais yn cymryd hyd at 28 niwrnod i’w brosesu.  Ni fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Mae o ddiddordeb cyffredinol fod yn rhaid i’r Cyngor brosesu’ch cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed oddi wrth y Cyngor o fewn 28 niwrnod, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.  

A allaf i apelio os yw fy nghais yn aflwyddiannus?

Nid oes proses apelio gan y caiff eich cofrestriad ei ganiatáu oni bai eich bod wedi eich gwahardd rhag cael eich cofrestru gan Orchymyn y Llys. Petai cofrestriad yn cael ei wrthod am y rheswm hwn, cysylltwch, os gwelwch yn dda, ag Adran Iechyd yr Amgylchedd am wybodaeth bellach.

I roi gwybod am anghydffurfio â’r gyfraith neu am gyngor a chyfarwyddyd ar gydymffurfio, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda. 

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Commercial Team

Rhif Ffôn: 01495 369542

Cyfeiriad: Public Protection – Environmental Health, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk