Gwasanaeth Gwirio Treth ar gyfer Ymgeiswyr am Drwydded yn awr yn fyw
O 7 Mawrth 2022 hoffai CThEM eich hysbysu fod y  ar gael i ymgeiswyr am drwydded i wirio eu treth.
Fel y gwyddoch bydd y gwiriad treth yma yn ychwanegiad newydd i’r gwiriadau sydd gan gyrff trwyddedu eisoes, a bydd angen ei gwblhau pan fydd pobl yn adnewyddu eu trwyddedau i:
- yrru tacsis neu gerbydau hur preifat
- gweithredu busnesau cerbydau hur preifat
- delio mewn metel sgrap.
Bydd y newidiadau yn weithredol yng Nghymru a Lloegr o 4 Ebrill 2022.
Rydym wedi darparu’r gwasanaeth gwirio treth yn awr fel y gall ymgeiswyr sydd angen iddynt adnewyddeu trwyddedau ar, neu’n fuan ar ôl, 4 Ebrill i gael eu cod gwirio treth mewn da bryd.
Bydd y gwasanaeth cadarnhau gwirio treth ar gael ar gyfer cyrff trwyddedu fel y bwriadwyd ar 4 Ebrill 2022.
Mae canllawiau ar gael i helpu  Ìý²¹Ìý i baratoi ar gyfer a chwblhau’r gwiriadau treth newydd.
Os na all ymgeiswyr gwblhau’r gwirip treth ar-lein, gallant gael help gan CThEM – er enghraifft os ydynt angen gwybodaeth mewn ffurf gwahanol neu help i lenwi ffurflenni. Dylent fynd i GOV.UK a chwilio ‘Help gan CThEM os ydych angen cymorth ychwanegol’.