Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn gyfrifol am weithgareddau gamblo neilltuol o fewn y Fwrdeisdref.
Mae Deddf Gamblo 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi Datganiad o Bolisi Gamblo sy'n nodi'r polisïau y bydd y Cyngor yn eu gweithredu fel arfer i hyrwyddo'r tri amcan trwyddedu wrth wneud penderfyniad ar gais a wnaed yn unol â'r Ddeddf. Cafodd y Polisi ei adolygu a'i gyhoeddi ar 31 Ionawr 2022.
Y tri amcan trwyddedu yw:
- atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell troseddu ac anrhefn, bod yn gysylltiedig gyda throseddu ac anrhefn neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu
- sicrhau y cynhelir gamblo mewn ffordd deg ac agored
- diogelu plant a phobl eraill fregus rhag cael eu niweidio neu ymelwa arnynt oherwydd gamblo
Caiff 3 prif fath o drwydded eu cyhoeddi yn unol â'r Ddeddf, sef:-
- trwydded gweithredydd
- trwydded bersonol
- trwydded mangre
Caiff trwyddedau gweithredu a phersonol eu cyhoeddi gan y Comisiwn Gamblo a thrwyddedau mangre eu cyhoeddi gan y Cyngor. Yn ogystal â thrwyddedau, mae nifer o fathau o ganiatâd ar gael ar gyfer mathau neilltuol o gamblo.
Trwyddedau Mangre
Mae angen trwydded mangre i awdurdodi defnyddio mangre ar gyfer:
- gweithredu casino (Trwydded Mangre Casino)
- darparu cyfleusterau bingo (Trwydded Mangre Bingo)
- darparu peiriannau Categori B3 neu B4 (Trwydded Mangre Canolfannau Hapchwarae Oedolion)
- darparu peiriannau Categori C (Trwydded Mangre Canolfan Adloniant Teulu)
- darparu cyfleusterau ar gyfer betio (Trwydded Mangre Beto)
Cyn y gellir rhoi trwydded mangre, mae'n rhaid i'r ymgeisydd fod wedi derbyn trwydded weithredu briodol ac, os oes angen, trwydded bersonol gan y Comisiwn Gamblo.
°ä²¹²Ô¾±²¹³Ùâ»å
Mae'r mathau dilynol o ganiatâd ar gael:
- caniatâd canolfan adloniant teulu heb drwydded
- caniatad hapchwarae gwobrau
- caniatâd mangre trwydded alcohol
- caniatâd hapchwarae clwb
- caniatâd peiriant clwb
Canolfan Adloniant Teulu heb Drwydded
Bydd caniatâd canolfan adloniant teulu heb drwydded yn darparu ar gyfer teuluoedd, yn cynnwys plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain.
Bydd Canolfannau Adloniant Teulu heb Drwydded yn gallu cynnig unrhyw nifer o beiriannau categori D (gweler y ddolen islaw ar gyfer categorïau peiriant). Mae angen trwydded ar gyfer peiriannau categori uwch.
Mae'n rhaid ymgynghori â'r awdurdod trwyddedu a Phrif Swyddog yr Heddlu cyn y rhoddir caniatâd. Bydd y caniatâd mewn grym am 10 mlynedd ac nid oes ffi blynyddol. Mae'n rhaid adnewyddu rhwng 2 a 6 mis cyn i'r caniatâd ddod i ben.
°ä²¹²Ô¾±²¹³Ùâ»å Hapchwarae Gwobr
Mae hapchwarae yn hapchwarae gwobr os na chaiff natur na maint y wobr y chwaraeir amdani eu penderfynu drwy gyfeirio at nifer y personau sy'n chwarae neu'r swm y mae'r hapchwarae yn ei dalu amdano neu'n ei godi.
Gellir rhoi caniatâd hapchwarae gwobr os oes trwydded mangre neu hapchwarae clwb yn weithredol yn y fangre.
- Bydd yr Awdurdod Trwyddedu a Phrif Swyddog yr Heddlu yn ymgynghori ar geisiadau
- Bydd caniatâd yn parhau am 10 mlynedd ac mae'n rhaid ei adnewyddu rhwng 2 a 6 mis cyn y dyddiad y daw i ben.
°ä²¹²Ô¾±²¹³Ùâ»å Hapchwarae Clwb a Chaniatâd Peiriant Clwb
Gellir rhoi caniatâd hapchwarae clwb i glwb aelodau a sefydliadau lles glowyr (ond nid clybiau masnachol) sy'n awdurdodi'r sefydliad i ddarparu peiriannau hapchwarae yn ogystal â hapchwarae cyfle cyfartal a siawns fel a nodir yn y rheoliadau.
Os nad yw'r clwb yn dymuno cael yr ystod llawn o gyfleusterau a ganiateir gan y caniatâd hapchwarae clwb, gallant wneud cais i'r awdurdod trwyddedu am ganiatâd peiriant clwb. Mae hyn yn awdurdodi'r deiliad i gael hyd at dri pheiriant hapchwarae o gategorïau B4, C neu D (h.y. tri pheiriant i gyd). Gall clybiau masnachol hefyd wneud cais am y caniatâd yma.
Mangre gyda Thrwydded Alcohol
Mae hawl awtomatig i ddarparu dau beiriant hapchwarae (Categori C neu D) mewn mangre gyda thrwydded alcohol. Mae'n rhaid hysbysu'r awdurdod trwyddedu am y bwriad i ddarparu'r peiriannau ac mae'n rhaid talu'r ffi a nodwyd.
Gall yr awdurdod trwyddedu ganiatau unrhyw nifer o beiriannau hapchwarae, fydd yn disodli ac nid yn ychwanegol at unrhyw hawl awtomatig.
Bingo
Mewn mangre gyda thrwydded alcohol, clybiau a sefydliadau lles glowyr, y trothwy yw os caiff bingo ei chwarae yn ystod unrhyw gyfnod o saith diwrnod yn fwy na £2,000 (un ai yn yr arian a gymerir neu'r gwobrau a roddir), bydd angen trwydded weithredu ar gyfer pob gêm bellach o fingo a chwaraeir yn y fangre honno am y 12 wythnos i fod yn gyfreithiol. Mae hyn yn weithredol ar gemau'r dyfodol sydd dros y trothwy o £2,000.
Loteri Cymdeithas Fach
Yn ogystal â thrwyddedau a chaniatâd, mae gan y Cyngor ddyletswydd i gyhoeddi cofrestriadau loteri cymdeithas fach gan fod Deddf Gamblo 2005 wedi dileu'r ddeddfwriaeth a arferai reoleiddio loterïau.
Mae'n rhaid i gymdeithas y caiff loteri ei hyrwyddo ar ei rhan fod wedi sefydlu a chael ei chynnal
- ar gyfer dibenion elusennol
- ar gyfer galluogi cyfranogiad yn, neu gefnogi, chwaraeon, athletau neu weithgareddau diwylliannol
- ar gyfer unrhyw ddiben heblaw budd preifat
Dogfennau Cysylltiedig
- Deddf Gamblo 2005 (31st January 2022)
- Deddf Hapchwarae 2005 - Ffioedd Trwydded 2022/23
- Deddf Hapchwarae 2005 - Ffioedd Trwydded 2024/25
- Datganiad o Bolisi Trwyddedu 31 Ionawr 2025
Manylion cyswllt
Ffôn: 01495 369700
E-bost: licensing@blaenau-gwent.gov.uk