Beth yw Cerbyd Hurio Preifat?
Caiff cerbydau hurio preifat ei hadnabod yn gyffredin fel 'minicabs'. Ni ellir galw cerbyd hurio preifat yn y stryd a dim ond ar gyfer archebion wedi'u trefnu ymlaen llaw y gellir eu defnyddio. Nid oes gan y cerbydau hyn fesurydd ond caiff y pris ei benderfynu ymlaen llaw adeg archebu. Gellir eu hadnabod drwy sticeri gwyn ar y drysau a phlât cerbyd gwyn a ddangosir ar gefn y cerbyd. Mae angen trwydded gweithredydd cerbyd hurio preifat hefyd i redeg cerbydau hurio preifat. Dim ond gyrwyr cerbydau hurio preifat rwyddedig Blaenau Gwent a all eu gyrru ac mae'n rhaid eu harchebu drwy weithredydd cerbydau hurio preifat trwyddedig Blaenau Gwent. Fel arfer caiff trwyddedau eu cyhoeddi am uchafswm cyfnod o flwyddyn.
A oes unrhyw gyfyngiadau ar y math o gar y gallaf ei ddefnyddio fel cerbyd hurio preifat?
Rhaid i'r cerbyd fod yn llai na 5 oed ar y trwyddedu cyntaf a gellir ei drwyddedu nes ei fod yn 10 oed y bernir nad yw'n deilwng i barhau i gael ei drwyddedu fel cerbyd hacni gan archwiliwr cerbyd cymeradwy'r Cyngor.
A gaiff fy ngherbyd ei brofi neu a fydd fy MOT arferol yn ddigonol?
Bydd angen i'r cerbyd gael ei brofi i o leiaf safonau MOT gan archwilydd cerbydau cymeradwy y Cyngor cyn y rhoddir trwydded.
A wyf angen yswiriant arbennig?
Mae'n rhaid i chi sicrhau fod gan y cerbyd sicrwydd ar gyfer dibenion hurio a thalu ar gyfer defnydd hurio preifat. Mae'n rhaid i chi hefyd fod y sicrwydd ar gael ar gyfer pob gyrrwr tacsi trwddedig arall i'ch galluogi i'w cyflogi, os yn berthnasol.
Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli Trwyddedau Cerbyd Hurio Preifat?
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
Pwy all wneud cais?
Gall unrhyw un gyda diddordeb cyfreithiol mewn cerbyd wneud cais am drwydded cerbyd hurio preifat.
Beth yw'r broses gais?
Mae'n rhaid i ymgeiswyr anfon y dogfennau dilynol fel rhan o'r broses gais:-
- Ffurflen gais wedi'i llenwi gan bob parti
- Syml DBS
- Ffi'r drwydded
- Dogfen gofrestru ('llyfr log')
- Tystysgrif yswiriant modur/nodyn gorchudd ar gyfer dibenion hurio preifat
- Tystiolaeth o berchnogaeth
- Tystysgrif MOT os yw'r cerbyd dros 3 blwydd oed
Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â'r Tîm Trwyddedu a gwneud trefniadau i gyflwyno'r dogfennau uchod. Gall swyddogion trwyddedu wedyn wneud yr apwyntiad angenrheidiol gydag Archwilydd Cerbydau Cymeradwy y Cyngor i'r cerbyd gael ei archwilio i sicrhau ei fod mewn cyflwr da i gael ei drwyddedu fel cerbyd hurio preifat.
Os yw'r cerbyd yn pasio'r prawf, bydd yr archwiliwr yn gosod y platiau trwydded cefn a sticeri drws a rhoi tystysgrif cydymffurfiaeth. Bydd y Swyddog Trwyddedu yn cyhoeddi'r drwydded bapur a'r platiau trwydded mewnol.
A allaf wneud cais ar-lein?
Na, ni chaiff ceisiadau ar-lein eu derbyn ar gyfer y math yma o drwydded.
Faint yw'r gost?
Mae'r ffi drwydded i'r cais cyntaf yn £310 a ffi cais adnewydd yn £243.
Pa mor hir y mae'n ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig?
Fel arfer mae'n cymryd rhwng un a dwy wythnos i brosesu ceisiadau fodd bynnag mae hyn yn dibynnu os oes apwyntiad ar gael ar gyfer archwilio'r cerbyd. Ni fydd caniatâd dealledig yn weithredol ar gyfer y trwyddedau hyn h.y. os na chlywch unrhyw beth o fewn y cyfnod penodol, ni allwch dybio'n awtomatig fod y cais wedi ei gytuno.
Cwynion defnyddwyr
Os oes gennych unrhyw gŵyn am unrhyw fater yn ymwneud â gweithgareddau tacsi trwyddedig neu heb drwydded, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu.
Manylion cyswllt
Ffôn: 01495 369700
E-bost: licensing@blaenau-gwent.gov.uk