Rheolydd data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Bwrdeisiol, Canolfan Ddinesig, Glynebwy NP23 6XB
Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant Gwybodaeth: Steve Berry – 01495 355080                   Â
·¡-²ú´Ç²õ³Ù:Ìýdataprotection@blaenau-gwent.gov.uk
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut bydd Blaenau Gwent (fel Rheolydd Data) yn casglu, defnyddio a diogelu data personol yn benodol yng nghyswllt y pandemig coronafeirws.
Mae’r Cyngor eisoes yn dal data ar ddinasyddion, gweithwyr cyflogedig a rhanddeiliaid.
Lle mae gennym wybodaeth eisoes am fregusrwydd fel y’i diffinnir yng nghanllawiau cyfredol y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gallwn rannu hyn ar gyfer dibenion cynllunio argyfwng neu i ddiogelu eich buddiannau hanfodol drwy ei rannu gyda gwasanaethau y tu mewn a hefyd y tu allan i’r Cyngor.
Yn yr argyfwng presennol, gall fod angen i ni ofyn am ddata personol yn cynnwys data personol sensitif nad ydych eisoes wedi ei gyflenwi – er enghraifft, eich oedran neu os oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd isorweddol neu os ydych yn fregus. Mae hyn fel y gall y Cyngor eich cynorthwyo a blaenoriaethu ei wasanaethau.
Os oes gennym wybodaeth yn awgrymu y gallech fod yn fregus yn y pandemig presennol, gallwn gysylltu â chi i sicrhau eich diogelwch a’ch cynorthwyo lle’n bosibl.
Gallwch weld prif Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor sy’n cynnwys mwy o wybodaeth ar sut ydym yn casglu, defnyddio a diogelu data personol yn gyffredinol, yn ogystal â’ch hawliau fel gwrthrych data.
Grwpiau Risg Uchel Covid-19
Caiff data personol ei gasglu i asesu a rhoi cefnogaeth i oedolion, plant a phobl ifanc sydd mewn categorïau risg uchel ac a fyddid yn cael eu hystyried yn fregus, pe byddech yn cael eich heintio gyda Coronafeirws.
Asesu a darparu cefnogaeth i staff
Caiff data personol ei gasglu i alluogi’r Cyngor i ddynodi unrhyw staff (neu rai sy’n gysylltiedig yn agos â staff/dibynyddion) sydd mewn unrhyw un o’r categorïau risg uchel ac a ystyrid yn fregus, pe byddent yn cael eu heintio gyda Coronafeirws.
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol?
Cafodd y rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol a broseswn ei rhoi i ni yn uniongyrchol gennych chi, dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Y seiliau cyfreithiol y dibynnwn arnynt ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth bersonol yw:
- GDPR Erthygl 6 (d) rydym ei angen i ddiogelu eich buddiannau hanfodol
- GDPR Erthygl 6 (e) rydym ei angen i gyflawni tasg gyhoeddus
Pan fyddwn yn casglu data am eich iechyd, rydym hefyd yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol dilynol:
- GDPR Erthygl 9 (2) (9i) rydym ei angen ei gasglu ar gyfer iechyd y cyhoedd
- GDPR Erthygl 9 (2) (j) rydym ei angen i ddadansoddi eich gwybodaeth
Eich hawliau
Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau yn cynnwys:
- Eich hawl i fynediad – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.
- Eich hawl i unioni – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni unioni gwybodaeth a gredwch sy’n anghywir.
- Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth a gredwch sy’n anghyflawn.
- Eich hawl i gyfyngu prosesu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu prosesu eich gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.
- Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.
- Nid oes angen i chi dalu unrhyw gost am weithredu eich hawliau. Os gwnewch gais, mae gennym un mis i ymateb i chi.
Gyda phwy i gysylltu os oes gennych bryderon am sut y caiff eich data ei phrosesu
Gallwch gysylltu â Tîm Diogelu Data Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
·¡-²ú´Ç²õ³Ù:Ìýdataprotection@blaenau-gwent.gov.uk
Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn defnyddio’r manylion dilynol:
Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):Â
Ffôn 0303 123 1113
Addaswyd ddiwethaf: 08/04/2020
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Ffôn: 01495 355080
·¡-²ú´Ç²õ³Ù:Ìýdataprotection@blaenau-gwent.gov.uk