Cydraddoldeb ac amrywiaeth a Deddf Cydraddoldeb 2010
Rydym yn cydnabod y gallai pobl ddioddef gwahaniaethu a bod dan anfantais am lawer o resymau. Mae gan y Cyngor hefyd rwymedigaeth foesol a statudol i adlewyrchu anghenion cymuned amrywiol trwy’r gwasanaethau a ddarperir ganddo ac fel cyflogwr.
Mae wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws ein holl wasanaethau ac i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb. Mae’r Ddeddf yn rhoi tegwch wrth galon cymdeithas, yn cysoni cyfraith gwahaniaethu, yn cryfhau’r gyfraith i gefnogi cynnydd ar gydraddoldeb, ac yn datganoli’r cyfrifoldeb am wahaniaethu i Gymru.
Roedd y Ddeddf yn cydgrynhoi’r 116 o ddarnau gwahanol o ddeddfwriaeth cydraddoldeb flaenorol ac mae’n rhoi’r hawl i bawb beidio â chael eu trin yn llai ffafriol gan awdurdodau cyhoeddus. Y nodweddion gwarchodedig (meysydd) y mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn berthnasol iddynt yw:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Hil
- Crefydd a chred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd rhywiol
- Priodas a phartneriaethau sifil
Nid yw’r Gymraeg yn rhan o’r Ddeddf Cydraddoldeb gan ei bod yn dod o dan ei darn penodol o ddeddfwriaeth ei hun – Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 – ond nid yw’n llai pwysig.
Mae angen rhoi sylw dyledus i’r canlynol:
- Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth
- Hyrwyddo cyfle cyfartal
- Meithrin perthynas dda
- Yn cynnwys cyflogaeth a darparu nwyddau a gwasanaethau (yn cynnwys staff a’r cyhoedd sy’n defnyddio gwasanaethau)
Dogfennau Cysylltiedig
- Cynllun Cydraddoldeb Blaenau Gwent 2024-28 fersiwn hawdd ei ddeall
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol Adroddiad Blynyddol 2023 – 2024
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol Blaenau Gwent 2024-2028
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol Blaenau Gwent Cynllun Gweithredu 2024/28
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Asesiad Effaith Integredig
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol Adroddiad Blynyddol 2022 - 2023
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol Adroddiad Blynyddol 2021 - 2022
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24
- Adroddiad Monitro Cydraddoldeb Strategol Blynyddol 2018 - 2020