Eich data
Y data
Rydym yn prosesu gwybodaeth y gallwch ei rhoi pan fyddwch yn gwneud hawliad neu gais am
- cyllideb bersonol/gofal cymdeithasol
- pensiwn
- trwydded gyrrwr tacsi
- trwydded masnachwr marchnad
- trwydded alcohol bersonol
- tai cymdeithasol (tenantiaid cyfredol ac unigolion ar restr aros am gartref)
- hawl i brynu (wedi cwblhau ac ar y gweill)
- pas a thrwydded cludiant
- cynllun gostwng treth gyngor
- credyd cynhwysol
- budd-dal tai
- budd-daliadau gwladol eraill
Rydym yn prosesu gwybodaeth a roddwch pan fyddwch yn gofyn am dalu anfoneb gan sefydliad sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol. Cyfeirir at hyn fel statws a data hanes talu credydwyr masnach.
Rydym yn prosesu gwybodaeth a roddwch pan fyddwch yn gofyn am daliad am gyflogaeth gan sefydliad sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol. Cyfeirir at hyn fel data cyflogres.
Rydym yn prosesu gwybodaeth a roddwch i ni pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio. Cyfeirir at hyn fel data Cofrestr Etholiadol.
Rydym yn prosesu gwybodaeth a roddwch yng nghyswllt eich treth gyngor.
Rydym yn prosesu gwybodaeth a roddwch yng nghyswllt eich ardrethi busnes.
Rydym yn prosesu gwybodaeth a roddwch yng nghyswllt preswylwyr mewn cartref gofal preifat a gefnogir gan sefydliad sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol.
Gellir cael manylebion data yn nodi'n union pa ddata a broseswn yn y meysydd uchod yma.
Euogfarnau troseddol
Os bydd paru data drwy'r Fenter Twyll Genedlaethol yn arwain at erlyniad, yna gall hyn hefyd gael ei gofnodi gan y sefydliadau sy'n cymryd rhan.
Categorïau arbennig gwybodaeth bersonol (Erthygl 9 GDPR a Phennod 2 Adran 10 Deddf Diogelu Data 2018)Mae'r uchod yn cynnwys categorïau arbennig o wybodaeth bersonol.
Mae data am fudd-daliadau tai a benthyciadau myfyrwyr yn cynnwys dangosydd iechyd neu gyflwr corfforol neu feddyliol. Mae angen y nodyn anabledd yma, nad yw'n dynodi'r cyflwr penodol, gan fod anabledd yn cael effaith ar hawl myfyriwr i hawlio budd-dal tai.
Mae paru cyllideb bersonol (taliad uniongyrchol) yn defnyddio data yn cyfeirio at unigolion sydd ag ystod benodol o anghenion gofal cymdeithasol oherwydd fod ganddynt anabledd neilltuol.
Rydym yn casglu gwybodaeth ar ddeiliaid bathodyn glas (ac ymgeiswyr). Er nad ydym yn cadw gwybodaeth ar y cyflwr meddygol sy'n rhoi hawl i'r unigolyn gael bathodyn, rydym yn gwybod pwy sydd â bathodyn.
Diben
Y diben(ion) yr ydym yn prosesu eich data personol ar ei gyfer yw:
Mae Swyddfa'r Cabinet yn cynnwys ymarferion paru data i gynorthwyo gydag atal a chanfod twyll. Mae hyn yn un o'r ffyrdd y mae Gweinidog Swyddfa'r Cabinet yn cymryd cyfrifoldeb o fewn llywodraeth am effeithiolrwydd a diwygio sector cyhoeddus.
Proffilio awtomatig
Cynhelir y proffilio awtomatig dilynol ar eich data personol (fel y'i diffiniwyd yn Erthygl 4, paragraff 4 GDPR):
Mae paru data yn cynnwys cymharu setiau o ddata, megis cofnodion cyflogres neu fudd-daliadau corff, gyda chofnodion eraill a gaiff eu dal gan yr un corff neu gorff arall i weld pa mor bell maent yn paru. Mae'r data fel arfer yn wybodaeth bersonol. Mae paru data yn caniatau dynodi hawliadau a thaliadau a allai fod yn dwyllodrus. Lle canfyddir bod data yn paru, gall ddangos fod anghysondeb sydd angen ei ymchwilio ymhellach. Ni fedrir gwneud unrhyw dybiaeth am p'un ai os oes twyll, camgymeriad neu esboniad arall nes y cynhaliwyd ymchwiliad.
Caiff prosesu data gan Swyddfa'r Cabinet mewn ymarferiad paru data ei wneud gydag awdurdod statudol dan ei bwerau yn Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014. Nid oes angen caniatâd yr unigolion dan sylw dan ddeddfwriaeth diogelu data na'r GDPR.
Mae pob corff sy'n cymryd rhan yn ymarferion paru data Swyddfa'r Cabinet yn derbyn adroddiad o'r mathau paru y dylent eu hymchwilio, er mwyn canfod achosion o dwyll, dros- neu dan-daliadau a chamgymeriadau eraill, i gymryd camau gweithredu unioni a diweddaru eu cofnodion yn unol â hynny.
Sail gyfreithiol prosesu
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol yw fod angen prosesu ar gyfer cyflawni tasg a wneir yn y budd cyhoeddus neu i weithredu awdurdod swyddogol a urddwyd yn y rheolydd data.
Cynhelir y Fenter Twyll Genedlaethol yn defnyddio pwerau paru data a roddwyd i Gweinidog Swyddfa'r Cabinet gan Ran 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol .
Dan y Ddeddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol
- Gall Swyddfa'r Cabinet gynnal ymarferion paru data ar gyfer diben cynorthwyo atal a chanfod twyll.
- Gall Swyddfa'r Cabinet ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff (fel a nodir yn y Ddeddf) ddarparu data ar gyfer ymarferion paru data.
- Gall cyrff gymryd rhan yn ei ymarferion paru data ar sail wirfoddol lle mae Swyddfa'r Cabinet yn ystyried bod hynny'n briodol. Lle gwnânt hynny, mae'r Ddeddf yn dweud nad oes torri cyfrinachedd ac yn gyffredinol yn dileu cyfyngiadau eraill wrth ddarparu'r data i Swyddfa'r Cabinet. Fodd bynnag, mae gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data yn parhau i fod yn weithredol, felly ni fedrir darparu data yn wirfoddol pe byddai gwneud hynny yn torri deddfwriaeth diogelu data. Yn ychwanegol, gwaherddir rhannu data cleifion ar sail wirfoddol.
- Gall Swyddfa'r Cabinet ddatgelu canlyniadau ymarferion paru data lle mae hyn yn cynorthwyo wrth atal a chanfod twyll, yn cynnwys datgeliad i gyrff sydd wedi rhoi'r data ac i archwilwyr y mae'n eu penodi yn ogystal â chyflawni data dan ddeddf..
- Gall Swyddfa'r Cabinet ddatgelu data a roddwyd ar gyfer paru data a hefyd ganlyniadau paru data i Archwilydd Cyffredinol Cymru, Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol Gogledd Iwerddon, Archwilydd Cyffredinol yr Alban, Comisiwn Cyfrifon yr Alban ac Audit Scotland, ar gyfer dibenion atal a chanfod twyll.
- Mae datgeliad anghywir data a gafwyd ar gyfer dibenion paru data gan unrhyw berson yn drosedd. Mae person a geir yn euog o'r drosedd yn atebol ar euogfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
- Gall Swyddfa'r Cabinet godi ffi ar gorff sy'n cymryd rhan mewn ymarferiad paru data ac mae'n rhaid iddi osod rhestr o ffioedd ar gyfer corff y mae'n ofynnol iddynt gymryd rhan.
- Mae'n rhaid i Swyddfa'r Cabinet baratoi a chyhoeddi Cod Ymarfer. Mae'n rhaid i bob corff sy'n cynnal neu sy'n cymryd rhan yn ei ymarferion paru data, yn cynnwys Swyddfa'r Cabinet ei hun, roi ystyriaeth i'r Cod.
- Gall Swyddfa'r Cabinet roi adroddiad cyhoeddus ar ei gweithgareddau paru data.
Data personol sensitif yw data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credo grefyddol neu athronyddol, neu aelodaeth undeb llafur, a phrosesu data genynnol, data biometrig ar gyfer diben dynodi person naturiol mewn modd unigryw, data'n ymwneud ag iechyd neu ddata'n ymwneud â bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person naturiol. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data bersonol sensitif yw:
- mae angen prosesu am resymau budd cyhoeddus sylweddol ar gyfer ymarfer swyddogaeth o'r Goron, Gweinidog o'r Goron, neu adran o'r llywodraeth
Mae Swyddfa'r Cabinet yn cynnal ymarferiadau paru data i gynorthwyo gydag atal a chanfod twyll. Caiff prosesu data gan Swyddfa'r Cabinet mewn ymarferiad paru data ei wneud gydag awdurdod statudol dan ei bwerau yn Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data euogfarnau troseddol yw paragraffau 6 a 10 atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018.
Derbynwyr
Caiff eich data personol ei rhannu gennym fel sydd angen ar gyfer dibenion atal a chanfod twyll gyda:
- Archwilydd Cyffredinol Cymru
- Rheolydd ac Archwilydd Cyffredinol Gogledd Iwerddon
- Archwilydd Cyffredinol yr Alban
- Comisiwn Cyfrifon yr Alban ac Audit Scotland
A gyda chyfranogwyr gorfodol sy'n cynnwys
- Cynghorau dosbarth a sir
- Bwrdeistrefi Llundain a metropolitaidd
- Awdurdodau unedol
- Awdurdodau heddlu
- Awdurdodau tân ac achub
- Awdurdodau pensiwn
- Ymddiriedolaethau GIG ac awdurdodau iechyd strategol
- Ymddiriedolaethau Sylfaen
- Grwpiau Comisiynu Clinigol
- Awdurdodau cludo teithwyr
- Gweithredwyr cludo teithwyr
- Awdurdodau gwastraff
- Awdurdod Llundain Fwyaf a'i gyrff swyddogaethol
Yn ychwanegol, mae'r cyrff dilynol yn darparu data i'r Sefydliad Twyll Cenedlaethol ar gyfer paru ar sail wirfoddol:
- Cynlluniau pensiwn sector preifat (amrywiol)
- Y Swyddfa Gartref
- Heddlu Metropolitan - Operation Amberhill
- Awdurdodau iechyd arbennig
- Cymdeithasau tai
- Awdurdodau gwasanaeth prawf
- Awdurdodau parciau cenedlaethol
- Cynlluniau pensiwn llywodraeth leol
- Swyddfa Twyll Yswiriant
- Adrannau llywodraeth ganolog
- Sefydliadau preifat eraill/cwmnïau/asiantaethau cyfeiriad credyd
Byddwn yn rhannu cofnodion yn cynnwys data personol gyda'r HMRC. Caiff y rhain eu paru gyda chofnodion HMRC a gwybodaeth HMRC ychwanegol a atodir ac a fwydir yn ôl i'r Menter Twyll Genedlaethol. Bydd gwaith paru HMRC yn anelu i ddynodi pobl yn y cyfeiriad a roddwyd a gwybodaeth berthnasol gysylltiedig ag incwm.
Caiff gwasanaethau paru data wedyn eu darparu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i'r Menter Twyll Genedlaethol a'n cyflenwr Technoleg Gwybodaeth.
Y data a gaiff ei baru a'r rhesymau dros ei baru ar gyfer atal a chanfod twyll
Ar gyfer gwybodaeth yn crynhoi'r gwahanol fathau paru ar gyfer pob math neilltuol o sefydliad sy'n cymryd rhan a diben y paru gweler y ddogfen .
Rydym hefyd yn darparu'r gwasanaethau dilynol:
ReCheck
Mae ReCheck yn wasanaeth hyblyg paru data sy'n ategu'r ymarferiad cenedlaethol. Mae'r gwasanaeth hwn yn galluogi cyrff sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol i ail-gynnal paru data presennol, ar adeg sy'n gweddu iddynt, drwy lanlwytho setiau data eu sefydliad ar gyfer paru mewnol
AppCheck
Gall y rhai sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i helpu gwirio hunaniaeth pobl neu os ydynt wedi gadael allan wybodaeth berthnasol a fedrai effeithio ar eu hawl i fudd-dal, gwasanaeth neu gyflogaeth.
FraudHub
Caniatáu i gyrff sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol, sydd eisiau cydweithio, i sgrinio eu data cyfunol yn rheolaidd ac effeithlon er mwyn atal camgymeriadau wrth brosesu taliadau a gostwng twyll.
Cadw
Byddwn yn cadw eich data personol ar gyfer y cyfnodau a nodir yn y Rhestr Dileu Data (i'w gyhoeddi yn dilyn ymgynghoriad).
Lle na chafwyd data personol gennych
Cawsom eich data personol gan:
Cyfranogwyr gorfodol:
- Cynghorau dosbarth a sir
- Bwrdeistrefi Llundain a metropolitaidd
- Awdurdodau unedol
- Awdurdodau heddlu
- Awdurdodau tân ac achub
- Awdurdodau pensiwn
- Ymddiriedolaethau GIG ac awdurdodau iechyd strategol
- Ymddiriedolaethau Sylfaen
- Grwpiau Comisiynu Clinigol
- Awdurdodau cludiant teithwyr
- Gweithredwyr cludiant teithwyr
- Awdurdodau gwastraff
- Awdurdod Llundain Fwyaf a'i gyrff swyddogaethol
Gall cyfranogwyr gwirfoddol gynnwys:
- Cynlluniau pensiwn sector preifat (amrywiol)
- Y Swyddfa Gartref
- Heddlu Metropolitaidd - Operation Amberhill
- Awdurdodau iechyd arbennig
- Cymdeithasau tai
- Awdurdodau gwasanaethau prawf
- Awdurdodau parciau cenedlaethol
- Cynlluniau pensiwn llywodraeth ganolog
- Swyddfa Twyll Yswiriant
- Adrannau eraill llywodraeth ganolog
- Sefydliadau/cwmnïau/asiantaethau gwirio credyd
Eich hawliau
Mae gennych hawl i ofyn am wybodaeth am sut y caiff eich data personol ei brosesu ac i ofyn am gopi o'r data personol hwnnw. Mae gennych hawl i ofyn am unioni unrhyw gamgymeriad yn eich data personol yn ddi-oed. Mae gennych hawl i ofyn i unrhyw ddata anghyflawn gael ei gwblhau, yn cynnwys drwy ddatganiad atodol. Mae gennych hawl i ofyn i'ch data personol gael ei ddileu os nad oes cyfiawnhad mwyach iddo gael ei brosesu. Mae gennych hawl mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, lle anghytunir am gywirdeb) i ofyn am gyfyngu eich data personol.
Lle mae angen y prosesu i gyflawni tasg a wneir yn y budd cyhoeddus neu i ymarfer awdurdod swyddogol a urddwyd yn y rheolydd data, megis gweithredu swyddogaeth y Goron, Gweinidog y Goron neu adran y llywodraeth; gweithredu swyddogaeth a roddwyd ar berson drwy ddeddf; gweithredu swyddogaeth TÅ·'r Cyffredin neu DÅ·'r Arglwyddi; neu weinyddu cyfiawnder. Mae gennych hawl i wrthwynebu i brosesu eich data personol.
Cwynion
Os ystyriwch y cafodd eich data personol ei gamddefnyddio neu ei gam-drin, gallwch wneud cwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n rheoleiddiwr annibynnol. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk
Mae unrhyw gwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth heb ragfarn i'ch hawl i geisio iawn drwy'r llysoedd.
Manylion Cyswllt
Y rheolydd data ar gyfer eich data personol yw Swyddfa'r Cabinet. Manylion cyswllt y rheolydd data yw:
Head of the NFI
First Floor
10 Great George Street
Llundain
SW1P 3AE
E-bost: nfiqueries@cabinetoffice.gov.uk
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddog Diogelu Data (DPO) y rheolydd data yw:
DPO
Cabinet Office
70 Whitehall
Llundainn
SW1A 2AS
E-bost: dpo@cabinetoffice.gov.uk