¹û¶³´«Ã½app

Pwy yw Fforwm Ieuenctid Blaenau Gwent?

Pwy ydym ni?

Rydym yn grŵp o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n gweithio fel tîm ar faterion allweddol, gan gynrychioli lleisiau plant a phobl ifanc o bob rhan o Flaenau Gwent.

Beth rydym yn ei wneud?

Rydym yn gweithio gyda'r Cyngor a'i bartneriaid i helpu i wella'r ardal leol a sicrhau newid cadarnhaol i bobl ifanc a chymunedau lleol.

Rydym yn cymryd rhan mewn dadleuon, ymgynghoriadau, ymgyrchoedd cydraddoldeb, materion iechyd meddwl, newid hinsawdd, taclo bwlio a llawer mwy!

Bob blwyddyn mae'r Fforwm Ieuenctid yn ethol Maer Ieuenctid a Dirprwy Faer Ieuenctid. Mae'r ddau yn mynychu digwyddiadau lleol a chenedlaethol i weithio ar faterion allweddol sydd o bwys i bobl ifanc.

Mae rhai o’n hastudiaethau achos pobl ifanc i’w gweld isod, yn ogystal ag ymgyrchoedd diweddar rydyn ni wedi bod yn rhan ohonyn nhw a gwobrau rydyn ni wedi’u hennill.

Dod yn aelod o'r Fforwm Ieuenctid

Ydych chi rhwng 11 a 25 oed?

Ydych chi'n byw ym Mlaenau Gwent?

Hoffech chi fod yn rhan o Fforwm Ieuenctid Blaenau Gwent?

Mae'n gyfle i chi gymryd rhan ar bynciau sy'n bwysig i Blant a Phobl Ifanc.

I ymuno â'r Fforwm Ieuenctid cofrestrwch yma