¹û¶³´«Ã½app

Ymgynghoriad Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-32

Mae Adran 84 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn nodi sut y byddant yn datblygu addysg cyfrwng Cymraeg.

Ymgynghorodd Cyngor Blaenau Gwent ar eu drafft Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (2022-2032)

  • Roedd y cyfnod ymgynghori statudol yn rhedeg o ddydd Gwener 5 Hydref 2021 am 8 wythnos, gan ddod i ben Dydd Llun 3 Ionawr 2022
  • Cafodd drafft terfynol y Cynllun ei gynhyrchu a’i gyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru ei gymeradwyo ar 31 Ionawr 2022 gyda’r cytundeb y byddai cymeradwyaeth Pwyllgor Gweithredol Blaenau Gwent yn dilyn yn y cyfarfod nesaf.
  • Cafodd hyn wedyn ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gweithredol ar 2 Mawrth 2022.
  • Ar 20 Gorffennaf 2022 derbyniodd Blaenau Gwent Gymderadwyaeth y Gweinidog i’w cynllun 10-mlynedd.Ìý

Ìý

bydd yn rhedeg o fis Medi 2022 hyd fis Awst 2032.

Mae’r gynllun yn nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau addysg i wella a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn addysg dros y deng mlynedd nesaf. Bydd y cynllun yn cyfrannu at gynllun Cymraeg 2050, lle mae Llywodraeth Cymru eisiau cael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

Mae Adroddiad monitro Blaenau Gwent ar gyfer 2022/23 bellach wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo (cliciwch ar y ddolen i'w gweld)

Mae copi diwygiedig o’r drafft Gynllun Cymraeg mewn Addysg ar gael i’w lawrlwytho ar waelod y dudalen hon.

Ar gyfer ymholiadau

e-bostÌýiÌý21centuryschools@blaenau-gwent.gov.uk

Ìý

Post:ÌýCymunedau Dysgu Cynaliadwy, llawr 8 Llys Einion, Abertyleri, Blaenau Gwent NP13 3DB

Ffôn:Ìý01495 355470

Ìý