Polisi Trafnidiaeth a'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol
Mae Cyngor Blaenau Gwent wrth galon y gwaith o ran dod â llu o bartneriaid at ei gilydd. Mae'r gwaith yma'n ceisio sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth sydd ar gael i drigolion, ymwelwyr a busnesau yn diwallu eu hanghenion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Mae'r Cyngor yn asesu effaith cynigion datblygu (fel tai ac archfarchnadoedd newydd) ar y rhwydwaith trafnidiaeth lleol. Mae'r Cyngor hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod pob agwedd ar ein seilwaith trafnidiaeth yn cyfrannu at gefnogi amgylchedd ac economi llewyrchus.
Un o'n prif gyfrifoldebau ni yw paratoi cynllun trafnidiaeth. Mae'r ddogfen yma'n amlinellu ein safbwynt ni ar anghenion trafnidiaeth yr ardal yn y dyfodol, ffyrdd o gynyddu dewis trafnidiaeth i drigolion lleol a ffyrdd o wella eu mynediad i swyddi, addysg, gofal iechyd a gwasanaethau eraill.
Mae Cynllun Trafnidiaeth Lleol Cymoedd De-ddwyrain Cymru (sy'n cynnwys ardal Blaenau Gwent) wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n gynllun cynhwysfawr ar gyfer y cyfnod 2015–2020, ac mae'n seiliedig ar lwyddiant y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol blaenorol gan Gynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (‘SEWTA’). Mae'r cynllun wedi'i lunio yn sgil ymgynghori'n helaeth â'r cyhoedd a'n partneriaid strategol.
Mae'r ddogfen canlynol yn gysylltiedig â'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol:
Bydd fersiwn Gymraeg o Gynllun Trafnidiaeth Lleol Cymoedd De-ddwyrain Cymru ar gael yn fuan.