Derbyniodd CSM John Henry Williams, a adnabyddid fel 'Jack', lawer o fedalau yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog ac yn fwyaf nodedig, Groes Victoria am ei ddewrder yn Villers Outreaux, Ffrainc yn 1918.
Tra roedd gwn peiriant y gelyn yn tanio ar ei uned gan ladd ac anafu llawer, mewn gweithred amlwg o ddewrder a heb ystyried ei fywyd ei hun, rhuthrodd CSM Williams safle'r gwn peiriant, cymryd 15 o garcharorion a sicrhau'r safle. Fe wnaeth ei weithredoedd arbed bywydau a sicrhau'r pentref.
Ym mis Medi gorymdeithiodd y Cymry Brenhinol drwy dref Brynmawr mewn Gorymdaith Gadarnhau i ymarfer eu hawl i Ryddid y Fwrdeistref ac ar yr un dydd cafodd carreg palmant i goffau Croes Victoria ei dadorchuddio i gydnabod CSM Williams yn Nantyglo.
Cafodd yn awr hefyd ei anrhydeddu gyda chofeb yn Villers Outreaux. Cynhaliwyd digwyddiad i nodi dadorchuddio'r gofeb oedd yn cynnwys perfformiadau gan ddisgyblion ysgol o Ffrainc, milwyr yn gwisgo iwnifform wreiddiol 1918, areithiau gan swyddogion lleol, arddangosiad o golomennod, plannu coeden Vibernum a dadorchuddio'r gofeb ei hun. Cafodd torch hefyd ei gosod ar ran y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Dywedodd y Cyng Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Blaenau Gwent:
"CSM 'Jack' Williams yw'r gwir diffiniad o arwr ac rydym yn hynod falch fel Cyngor i fod wedi ei anrhydeddu mewn blynyddoedd blaenorol ac yn bwysicaf oll yn ystod eleni, canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, drwy ein rhaglen 'Blaenau Gwent yn Cofio'."
Gallwch wylio fideo o'r digwyddiadau yn Ffrainc uchod ac araith o Nesaf Ann Tudalen isod.