Gwybodaeth am ein cysylltiadau balch â’n Lluoedd Arfog.
Rhyddid Anrhydeddus y Fwrdeistref Sirol – Catrawd Frenhinol Cymru
Yn 2011, rhoddwyd Rhyddid Anrhydeddus y Fwrdeistref Sirol i Gatrawd Frenhinol Cymru, gyda sgrôl ryddid yn cael ei chyflwyno er mwyn diolch i filwyr am eu “harwriaeth a dyletswydd mewn gwasanaeth”. Dathlwyd y digwyddiad trwy aelodau o’r 2il Fataliwn yn gorymdeithio drwy Lynebwy.
Rhyddid Anrhydeddus y Fwrdeistref Sirol – Y Lleng Brydeinig Frenhinol
Er mwyn nodi 100 mlynedd ers sefydlu’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn 2021 ac i gydnabod y gwaith elusennol ymroddedig a wneir gan ganghennau lleol (Abertyleri, Cendl, Blaenau, Bryn-mawr, Cwm, Glynebwy, Rasa a Thredegar) ar draws y Fwrdeistref Sirol sy’n cefnogi milwyr a chyn-filwyr a’u teuluoedd. Hefyd, er mwyn cydnabod yr ystod eang o bobl yn y Fwrdeistref Sirol sy’n codi arian bob blwyddyn i gefnogi cymuned y Lleng Brydeinig Frenhinol a’r Lluoedd Arfog.
Mae Llyfr Coffa Cenedlaethol wedi'i ddigideiddio ac mae ar gael .