Ymunwch â’n fforymau!
Os oes gennych ddiddordeb mewn dweud eich dweud ar faterion eraill, yna efallai yr hoffech ymuno â’n Fforwm 50+, ein Rhwydwaith Profiad Bywyd ar gyfer Cydraddoldeb neu ein Fforwm Ieuenctid, neu gofrestru i dderbyn rhybuddion am ddigwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghoriadau gan Fy Ngwasanaethau Cyngor.
Cwblhewch ein ar-lein i gymryd rhan yn un o’r fforymau isod. Os oes angen cymorth arnoch i wneud hyn, gallwch ymweld â’ch Hyb Cymunedol lleol neu gysylltu â’n Swyddog Cynhwysiant Digidol drwy ffonio 01495 311556.
Rhwydwaith Profiad Bywyd ar gyfer CydraddoldebMae’r Rhwydwaith Profiad Bywyd yn rhwydwaith o bobl o fewn y cyngor (staff) a phobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent sydd â nodweddau gwarchodedig ac sydd eisiau rhannu eu straeon, eu heriau a’u cyflawniadau gyda’r cyngor i arwain y gwaith o gyflawni Cynllun Cydraddoldeb Strategol Blaenau Gwent 2024–28. |
Fforwm 50+Dewch at eich gilydd, cymdeithaswch, a thrafodwch yr hyn sy’n bwysig i chi yn y fforwm rhad ac am ddim, anwleidyddol hwn sy’n agored i bawb. Byddwch yn rhan o lais torfol ar gyfer pobl 50 oed a hŷn sy’n byw a/neu’n gweithio ym Mlaenau Gwent, gan gydweithio i adeiladu cymuned oes-gyfeillgar. Mae’r fforwm yn cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein ac mae’n cynnwys siaradwyr gwadd, gweithgareddau, a sgyrsiau am y materion sydd bwysicaf i chi. |
Y Fforwm IeuenctidRydym yn grŵp o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n gweithio fel tîm ar faterion allweddol, gan gynrychioli lleisiau plant a phobl ifanc o bob rhan o Flaenau Gwent. Cliciwch yma i ddarganfod mwy |
Cewch y newyddion diweddaraf – rhybuddion Siarad Gyda’n Gilydd
Lluniwch ein gwasanaethau trwy gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghoriadau sydd ar ddod. Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion ‘Dweud Eich Dweud’ ar Fy Ngwasanaethau Cyngor . Ymgynghorir â chi ar ystod eang o faterion i’n helpu i wella ein gwasanaethau i gefnogi lles cymunedol yn eich ardal.
Rydym wedi gwrando a gweithredu
Rydym am eich gwneud yn ymwybodol o sut mae eich amser a’ch ymroddiad wedi effeithio ar ein penderfyniadau ac wedi llywio ein hymarfer yn sgil ein digwyddiadau Siarad Gyda’n Gilydd. Gallwch weld canlyniadau digwyddiadau’r gorffennol trwy ddewis y canlynol:
Siarad Gyda’n Gilydd ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Mai 2024
Dogfennau cysylltiedig
Mae ein Fforymau Ymgysylltu wedi'u cynllunio i gynnwys a grymuso trigolion ar faterion penodol, yn unol â'n Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad 2024 i 2028
I ymuno â’r fforwm ieuenctid, cofrestrwch yma:
I ymuno â’n fforymau eraill, cofrestrwch yma: