¹û¶³´«Ã½app

Ymgynghoriad ar Strategaeth Eiddo Gwag 2024

Ymgynghoriad ar Strategaeth Eiddo Gwag 2024

Mae'r Awdurdod hwn yn ymgynghori â'r gymuned mewn perthynas â'r strategaeth ddrafft uchod ar gyfer ymdrin ag eiddo gwag hirdymor ym Mlaenau Gwent.

Mae gan Flaenau Gwent nifer uchel o gartrefi gwag yn y sector preifat. Mae cartrefi gwag nid yn unig yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond hefyd yn gwastraffu adnoddau gwerthfawr pan fo galw cynyddol am dai.

Mae’r strategaeth ddrafft hon yn dangos ein hymroddiad i atal ac ymdrin â chartrefi gwag, drwy helpu perchnogion i’w gwneud yn ddefnyddiol eto. Rydym hefyd yn deall, fodd bynnag, fod angen inni gymryd camau gorfodi weithiau i ddatrys rhai problemau eiddo. Camau gorfodi ffurfiol bob amser yw’r opsiwn olaf, ac mae’r ddogfen hon yn egluro pryd a sut y byddwn yn gwneud hyn.

Mae gennym ddiddordeb i glywed eich barn chi ac rydym yn eich gwahodd i adolygu'r dogfennau a chymryd rhan yn yr arolwg.

Blaenau Gwent Strategaeth Cartrefi Gwag Sector Preifat 2024–2029

Pŵer Gorfodi Strategaeth Eiddo Gwag

Cynllun Gweithredu Strategaeth Eiddo Gwag

Mae'r arolwg yn cau ddydd Sul y 17eg o Dachwedd 2024.

Gwybodaeth allweddol cyn i chi ddechrau. Byddwch yn ymwybodol bod y Cyngor, fel rhan o'r strategaeth, wedi cymeradwyo polisi newydd yn ddiweddar mewn perthynas â phremiymau y Dreth Gyngor ar gyfer anheddau gwag. Gall hyn effeithio arnoch chi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r ddolen we ganlynol: www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/treth-cyngor/premiwm-treth-y-cyngor/