Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd i nodi arferion gorau cenedlaethol o ran sut y darperir gwybodaeth a chyngor i ofalwyr di-dâl. Rydym hefyd yn ystyried sut y caiff asesiadau o anghenion gofalwyr eu cyflawni. Er bod rhai gofalwyr wedi cael profiadau cadarnhaol o'r gwasanaethau hyn, mae'r broses wedi bod yn anoddach i eraill.
Hoffem siarad â chi am sut, yn eich barn chi, y gallai'r gwasanaethau hyn gael eu darparu orau.
Rydym yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein a digwyddiadau wyneb yn wyneb. Byddem yn ddiolchgar iawn o glywed eich safbwyntiau, a fydd yn cael eu rhannu (yn ddienw) ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd wrth inni weithio gyda'n gilydd i wella gwasanaethau i bob gofalwr di-dâl yng Nghymru.
Cadwch eich lle gan ddilyn y ddolen .
Gellir ad-dalu costau teithio am fynychu'r digwyddiad wyneb yn wyneb, cofiwch gasglu ffurflen hawlio ar y diwrnod.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan, a bydd eich cyfraniad yn werthfawr iawn wrth inni ddatblygu'r gwaith hwn.