Ddydd Iau 5 Mai, bydd pleidleiswyr yn/ym/yng Cyngo Blaenau Gwent yn cael dweud eu dweud am bwy fydd yn eu cynrychioli ar eu cyngor lleol.
Er mwyn pleidleisio ym mis Mai, rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol. Mae'r dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn prysur nesáu, acmaeÌý Blaenau Gwent yn annog pobl nad ydynt wedi cofrestru yn eu cyfeiriad cyfredol i sicrhau eu bod yn cofrestru mewn pryd.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ddydd Iau 14 Ebrill. Pum munud mae'n ei gymryd i wneud cais ar-lein ynÌý.
Eleni, bydd trigolion yn/ym/yng Cyngor Blaenau Gwent yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr sy'n cynrychioli eu hardal leol a'i thrigolion ac yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau mewn meysydd megis trafnidiaeth, gofal cymdeithasol a thai.
Dywedodd Andrea Jones y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cyngor Blaenau Gwent:
“Nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau hyn. Maent yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud am bwy sy'n eich cynrychioli ar faterion sy'n cael effaith uniongyrchol ar fywyd beunyddiol yma yn/ym/yng Blaenau Gwent Os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.â€
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru:
“Ni allwch leisio eich barn yn yr etholiadau hyn oni bai eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Mae'n hawdd cofrestru a bydd ond yn cymryd pum munud.
“Os ydych wedi cael eich pen-blwydd yn 16 oed neu wedi symud cartref yn ddiweddar, mae'n arbennig o bwysig gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gywir.Ìý
“Os oeddech wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os oes unrhyw amheuaeth, gallwch gadarnhau â'ch awdurdod lleol drwy ffonio 01495 355086."
Gall pobl ddewis pleidleisio mewn sawl ffordd – yn bersonol, drwy'r post neu drwy benodi rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, a elwir yn bleidlais drwy ddirprwy.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar 19 Ebrill, a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 26 Ebrill.
I gael gwybodaeth am etholiadau yn eu hardal, sut i gofrestru i bleidleisio, neu sut i wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, gall pleidleisiwyr fynd iÌý. Bydd y dudalen hon yn parhau i gael ei diweddaru cyn yr etholiadau.