¹û¶³´«Ã½app

Arddangosfeydd Tân Gwyllt - cofrestrwch a chadwch yn ddiogel

Wrth i noson Tân Gwyllt agosáu mae Cyngor Blaenau Gwent yn gofyn i drefnwyr arddangosfeydd tân gwyllt gofrestru eu digwyddiad gyda'n tîm Iechyd yr Amgylchedd.

Mae’r cynllun rhad ac am ddim hwn yn cwmpasu digwyddiadau wedi’u trefnu o bob maint ac mae wedi’i greu i helpu a sicrhau bod pawb yn cael digwyddiad tân gwyllt hapus, heb ddamweiniau. Bob blwyddyn ar draws y DU mae damweiniau y gellid bod wedi’u hosgoi’n hawdd yn digwydd yn ystod digwyddiadau tân gwyllt, mae’r rhain yn aml yn arwain at anafiadau difrifol.

Bydd swyddogion o'r Cyngor yn cynnig arweiniad cyn y digwyddiad i'r rhai sy'n cynllunio a chynnal arddangosfeydd ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a gallant ymweld cyn ac yn ystod y digwyddiad os bydd angen.

Meddai’r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd a’r Amgylchedd:
“Gall tân gwyllt fod yn hynod beryglus os na chaiff ei reoli’n ofalus a gall fod yn beryglus i wylwyr a’r bobl sy’n eu cynnau. Gwyddom oll pa mor swnllyd y gall tân gwyllt fod, a gall y rheini sydd mewn digwyddiadau nas cynlluniwyd mewn ardaloedd adeiledig fod yn drallodus weithiau i rai pobl ac anifeiliaid anwes.

Mae ein staff Iechyd yr Amgylchedd wedi'u hyfforddi i gynorthwyo trefnwyr arddangosfa tân gwyllt a gallant gynnig cyngor i drefnwyr digwyddiadau tân gwyllt yn y cyfnod cyn yr arddangosfa a gallant ymweld ar y noson ei hun. I wneud hyn mae angen i ni fod yn ymwybodol bod digwyddiad yn cael ei gynnal felly cysylltwch â ni i gofrestru eich digwyddiad tân gwyllt.â€

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun cofrestru cysylltwch â ni ar:
Rhif ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk
Gwefan: Fireworks Safety | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)