¹û¶³´«Ã½app

Arweinydd datblygu economaidd y Cyngor wedi'i benodi i Fwrdd IED

Mae Moe Forouzan, Rheolwr Tîm – Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Blaenau Gwent, wedi cael ei ethol i Fwrdd y Sefydliad Datblygu Economaidd (IED), corff proffesiynol mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer ymarferwyr datblygu economaidd ac adfywio.

Gyda 19 mlynedd o brofiad mewn llywodraeth leol, mae Moe yn arwain Uned Datblygu Economaidd Blaenau Gwent, gan arbenigo mewn sbarduno twf busnes, mynd i'r afael â heriau cadw, a rheoli safleoedd diwydiannol a swyddfeydd, gan gynnwys tir cyflogaeth. Mae ei oruchwyliaeth strategol yn cwmpasu datblygu a rheoli swyddogaethau busnes ac economaidd y Cyngor, yn canolbwyntio ar weithredu mentrau sbarduno economaidd, a meithrin rhwydweithiau cydweithredol sy'n gwella cadwyni cyflenwi lleol a chymorth cymheiriaid.

Mae Moe yn arbennig o angerddol am gefnogi busnesau newydd, busnesau bach a chanolig a phrosiectau adleoli busnes, gan eu helpu i ffynnu mewn amgylcheddau deinamig a chystadleuol. Ac yntau’n Feistr-Hwylusydd Mentrau Hyfforddedig, ef yw'r unig ymarferydd ardystiedig yn y DU o'r model Sirolli o Hwyluso Mentrau, wedi’i hyfforddi’n bersonol gan Dr Ernesto Sirolli. Mae'r dull arloesol hwn yn darparu cymorth busnes cyfrinachol am ddim i entrepreneuriaid a mentrau cymdeithasol, gan rymuso cymunedau lleol trwy entrepreneuriaeth. Mae arbenigedd sector cyhoeddus Moe wedi’i adeiladu ar radd israddedig a Meistr mewn Datblygu Busnes a Menter a enillwyd ym Mhrifysgol De Cymru, a phrofiad o reoli busnesau teuluol.

Gyda'i benodiad i'r Bwrdd IED a gyhoeddwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Sefydliad ar 4 Rhagfyr, datgelodd Moe fod ei ymrwymiad i ddatblygu economaidd yn "broffesiynol a phersonol, gan fy ysgogi i fireinio fy ngwybodaeth yn barhaus a sicrhau canlyniadau effeithiol" ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Dywedodd fod y profiad hwn yn ei wneud yn "hynod hyblyg ac yn addas iawn ar gyfer rolau arweinyddiaeth mewn cyd-destunau busnes amrywiol".

Meddai Moe: "Rwy'n gyffrous iawn am y cyfle hwn i ymuno â'r Bwrdd IED, ac i weithio gyda phobl sy'n angerddol dros ddatblygu economaidd. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o sefydliad sydd ag uchelgais gyffredin amlwg, ac sy'n cael ei ystyried yn enw mawr yn ei faes. Mae'r IED yn cael ei gydnabod fel chwaraewr pwysig a chredadwy iawn mewn datblygu economaidd, gan gynnig cyfleoedd DPP heb eu hail a gweithredu ar gyfer y proffesiwn, ac fel aelod rydw i eisoes yn gweld gwerth ei weithgareddau. Mae'r datblygiad proffesiynol rydw i wedi'i brofi wedi bod yn anhygoel, bob amser yn heriol, ac yn canolbwyntio ar helpu ymarferwyr i wella. Mae bod ar y Bwrdd yn gyfle i mi roi rhywbeth yn ôl hefyd, gan gynnwys trwy gymorth mentora. Dyma'r lle gorau i mi fod fel ymarferydd a dweud y gwir.

"Fel sefydliad mae cyfle i ddatblygu ein cysylltiadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond mae tyfu aelodaeth yng Nghymru yn bwysig iawn i mi. Rydw i am helpu i hyrwyddo manteision yr IED, ac annog mwy a mwy o ymarferwyr i fod yn rhan o'r mudiad datblygu economaidd cenedlaethol, a fydd yn ei dro yn cefnogi arfer gorau mewn cymunedau lleol a rhanbarthol yng Nghymru. Rydw i wedi gweld cyni mewn datblygiad economaidd, a sut i'w ailsbarduno, a nawr yw'r amser i wthio ’mlaen.

"Mae gennym lywodraeth yng Nghymru/y DU sy’n siarad am dwf. Mae twf yn bwnc llosg, ac mae'n rhaid i ni gefnogi datblygiad economaidd gan ei fod yn cysylltu popeth. Os gallwn fuddsoddi mewn datblygu economaidd, a sianelu ein huchelgais, gallwn dyfu’r economi."

Dywedodd Ellie Fry, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Blaenau Gwent: "Mae hwn yn benodiad cyffrous iawn i Moe yn bersonol ac i'r Cyngor yn broffesiynol. Mae Moe yn angerddol am ddatblygu economaidd a chefnogi busnesau o bob maint i ffynnu a thyfu ym Mlaenau Gwent a gwn y bydd yn dod â'r brwdfrydedd a'r ymrwymiad hwn i'w rôl newydd ar Fwrdd IED. Da iawn Moe."

Dywedodd Tom Stannard, Cadeirydd IED: "Hoffwn groesawu Moe yn ffurfiol i Fwrdd Cyfarwyddwyr IED, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef wrth i ni geisio cyflawni ein cenhadaeth ymhellach a gwthio amcanion ein maniffesto Tyfu’n Lleol, Tyfu’n Genedlaethol ledled y DU."