¹û¶³´«Ã½app

Blaenau Gwent yn dod yn Gyflogwr sy’n Gyfeillgar i Faethu

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn hapus i gyhoeddi ein bod bellach yn Gyflogwr sy’n Gyfeillgar i Faethu – rhaglen gan The Fostering Network sy'n helpu sefydliadau i gefnogi gweithwyr maethu, ac yn benodol, gofalwyr maeth.  

Rydym wedi gweithredu polisi i wneud gwahaniaeth go iawn i'n gweithwyr sy'n maethu, ac yn cefnogi eraill i ddod yn ofalwyr maeth cymeradwy eu hunain.  

Mae'r Cyngor yn cynnig patrwm gweithio hyblyg i ofalwyr maeth a'r rhai sy'n mynd drwy'r broses ymgeisio, a all gael mynediad i o leiaf bum diwrnod o absenoldeb ychwanegol â thâl ar gyfer eu hymrwymiadau maethu.  

Mae'r rhain yn cynnwys cyfarfodydd gyda gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau eraill, mynychu hyfforddiant, helpu pobl ifanc i ymgartrefu yn eu cartref newydd a mwy. 

The Fostering Network yw prif elusen faethu’r DU. Dywed eu cadeirydd gweithredol, Mervyn Erskine, ‘Mae dod yn Gyflogwr sy’n Gyfeillgar i Faethu yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono. Gofalwyr maeth yw sylfaen gofal cymdeithasol plant - am y gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i fywydau plant. Mae'n bwysig bod y rôl hanfodol hon nid yn unig yn cael ei chydnabod, ond hefyd yn cael ei hannog gan eu cyflogwyr.

Drwy gefnogi gofalwyr maeth presennol a hyrwyddo'r rôl i weithwyr eraill, byddwch yn helpu i adeiladu ar y miloedd o aelwydydd maethu ychwanegol sydd eu hangen yn y DU, ar gyfer y plant sydd eu hangen fwyaf.  

Gellir ymuno â’r cynllun yn rhad ac am ddim ac mae’n addas i sefydliadau o unrhyw faint – cysylltwch â The Fostering Network i ymuno â'r nifer cynyddol o Gyflogwyr sy'n Gyfeillgar i Faethu.’ 

Mae yna brinder cenedlaethol o 9,265 o aelwydydd maethu, ac nid yw Blaenau Gwent yn eithriad.  

Mae'r gymuned faethu ar agor i bobl o bob cefndir, waeth beth yw eich oedran, rhyw, statws perthynas neu gyfeiriadedd rhywiol. Os ydych chi’n ystyried maethu, cysylltwch â'ch gwasanaeth maethu lleol i ddysgu mwy. 

Gallwch ymweld â gwefan Maethu Cymru Blaenau Gwent yn neu anfonwch e-bost atom yn fostering@blaenau-gwent.gov.uk

#CyfeillgariFaethu