Mae ysgolion ym Mlaenau Gwent yn dysgu sut y gallai cysylltiad 5G drawsnewid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio gyda phrofiad Realiti Estynedig newydd a gyflwynir fel rhan o Datgloi 5G Cymru, prosiect arloesedd a gaiff ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a gwahanol bartneriaid y prosiect. Fel un o bartneriaid prosiect Datgloi 5G Cymru bu Louise Juliff, arweinydd tîm Rhaglen Hwuyluso STEM Blaenau Gwent, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Jam Creative Studios a Technocamps i greu ffordd o addysgu’r genhedlaeth newydd am fanteision 5G. Y penderfyniad oedd creu rhaglen gyfoethogi yn seiliedig ar gêm Realiti Estynedig – gan ddod yn fyw â’r buddion y gallai cysylltedd uwch ei roi i drefi fel Glynebwy. |
Datblygodd Louise Juliff drosolwg o’r cynnwys a’i alinio gyda blaenoriaethau STEM ym Mlaenau Gwent a’r Cwricwlwm i Gymru. Esboniodd: |
Mae’r gêm Realiti Estynedig, a ddatblygwyd gan Jam Creative Studios ac a gyflwynir mewn ysgolion gan Technocamps, yn galluogi dysgwyr i weithio mewn timau i ddatgloi cysylltedd 5G o amgylch tref 3D rithiol drwy gynnal gweithgareddau STEM llawn hwyl.
Yn cael eu chwarae gan grwpiau bach ar iPads, mae’r gweithgareddau yn cwmpasu rhai o’r llu o wahanol sectorau y bydd cysylltedd 5G yn eu trawnewid yn cynnwys gofal iechyd, amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, ailgylchu a thrafnidiaeth. Mae’n galluogi dysgwyr i weld newid clir mewn seilwaith wrth iddynt gerdded o amgylch ac ymchwilio’r amgylchedd tref rithiol 3D fawr yn fanwl.
Wedi’i anelu at ddysgwyr ym mlynyddoedd 6 a 7, bydd y profiad hefyd yn helpu gyda phontio o addysg gynradd i addysg uwchradd, gan y bydd dysgwyr arweiniol digidol blwyddyn 7 yn gweithio gyda blwyddyn 6 wrth iddynt wneud eu tasgau. “Rydym wedi defnyddio technoleg angor cwmwl i alluogi athrawon mewn gwahanol ysgolion i osod y dref rithol mewn ystafell ddosbarth o’u dewis nhw. Caiff y profiad wedyn ei angori yn yr ardal honno fel y gall y dysgwyr gerdded o’i chwmpas ar ben eu hunain a rhyngweithio gyda hi”, esboniodd Adam Martin-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Jam Creatie Studios, sy’n bartneriaid ym mhrosiect Datgloi 5G Cymru ac maent wedi datblygu’r profiad wrth ochr profiadau rhyngweithiol yng Nghastell Rhaglan ac o fewn ystafell ddosbarth trochi BT yng Nglynebwy. |
Dywedodd Stewart Powell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Technocamp:
“Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno gweithdai i ysgolion cynradd yn yr ardal i addysgu pobl ifanc ar sut mae 5G yn gweithio a sut y caiff ei ddefnyddio, gan chwalu chwedlau am 5G a sut y caiff ei caiff ei ddefnyddio fel cyfrwng i gyflwyno technoleg o’r fath ddiweddaraf ar draws y rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd athro o’r ysgol sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y prawf:
“Roedd y gweithdy yn broffesiynol a chyfeillgar iawn. Fe wnaeth y dysgwyr fwynhau’r sesiwn yn fawr.”
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
“Mae Llywodraeth Cymru, drwy fuddsoddiad Cymoedd Technoleg, yn falch i fod wedi arwain ar gyflwyno prosiect Datgloi 5G Cymru, sy’n cyflymu defnydd 5G ar draws Blaenau Gwent a Sir Fynwy.
“Mae datblygu sgiliau digidol y genhedlaeth nesaf yn allweddol i’n huchelgais i fod yn genedl ddigidol hyderus ac rwy’n falch iawn fod ein buddsoddiad yn Technocamps yn ein helpu i gyflawni’r uchelgais hwnnw.
“Mae Rhaglen Cyfoethogi 5G yn un o’r llu o ffyrdd hwyliog a rhyngweithiol i helpu datblygu’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ein disgwyr i sicrhau budd o economi cynyddol ddigidol a newidiol".
I gael y newyddion diweddaraf am STEM ym Mlaenau Gwent, dilynwch @BGCBCSTEM ar Twitter.
Partneriaid: