ýapp

Blynyddoedd Cynnar, Gofal plant a Chwar

Ydych chi’n angerddol am siapio meddyliau ifanc a chael effaith gadarnhaol ar fywydau plant? Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn falch i gymryd rhan yng nghynllun ‘Gofalwn Cymru’, gan gyflwyno ymgyrch Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae gyffrous sy’n addo ysbrydoli, grymuso a thrawsnewid.

Datgloi eich Potensial

Dechreuwch ar daith sy’n arwain at gyfleoedd gyrfa gwerth chweil o fewn y sector gofal plant. Ymunwch â byd lle mae twf, cynnydd a phrofiadau rhagorol.

Grymuso drwy Anogaeth

Cyfle i gwrdd â’n tîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol gofal plant sy’n galon ac enaid ein cymuned. Mae’r unigolion angerddol hyn yn ymroddedig i annog meddyliau ifanc a braenaru’r ffordd ar gyfer dyfodol mwy disglair.

Straeon Go Iawn, Effaith Go Iawn

Clywch straeon teimladwy gan rieni, gwarcheidwaid a phlant y cafodd eu bywydau eu cyfoethogi gan ein gwasanaethau gofal plant. Darganfyddwch y dylanwad a’r positifrwydd gwirioneddol y bydd ein rhaglenni’n dod â nhw i deuluoedd.

Dysgu Gydol Oes

Profwch ddatblygiad parhaus gyda’n rhaglenni a gweithdai hyfforddiant pwrpasol. Byddwch yn rhan o amgylchedd cefnogol sy’n gwerthfawrogi eich twf proffesiynol chi yn gymaint â thwf y plant.

Eiliadau Eithriadol

Ymgollwch mewn straeon grymus, sy’n dangos yr eiliadau dysgu eithriadol y mae ein staff yn eu gweld bob dydd. Ymunwch â ni wrth feithrin cywreinrwydd, twf a rhyfeddod ym mhob plentyn y gofalwn amdanynt.

Cysylltu ac Ymgysylltu

Dilynwch ein taith ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys Facebook, Instagram a Twitter. Ymwelwch â’n tudalen ymgyrch neilltuol ar wefan Blaenau Gwent i ymchwilio straeon llwyddiannus, geirda ac adnoddau gwerthfawr ar gyfer darpar chwilwyr swydd.

Ymuno â’r Mudiad

Defnyddio hashnod ymgyrch #GofalwnCymru i ymuno â’r sgwrs, rhannu eich profiadau a chysylltu gyda chymuned sy’n ymroddedig i wneud gwahaniaeth.

Mis o Ysbrydoliaeth

Bydd yr ymgyrch yn datblygu dros gyfnod o fis, gan roi digonedd o gyfleoedd i ymgysylltu, rhyngweithio ac ymchwilio byd gyrfaoedd gofal plant gyda ni.

Ydych chi’n barod i ddechrau ar daith sy’n annog meddyliau ifanc a hefyd eich uchelgais gyrfa? Ymunwch â ni am fis rhyfeddol o ddarganfod a grymuso gydag Ymgyrch Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae “Gofalwn Cymru”.

Gadewch i ni greu dyfodol mwy disglair gyda’n gilydd!

Tysteb

Martine Redfern – Arweinydd Tîm Strategaeth Gofal Plant

“Mae fy nhaith mewn gofal plant yn stori o wytnwch, symudedd ac ymroddiad di-ildio. Drwy symudiadau a newidiadau bywyd, croesewais gyfleoedd, rhoi’r gwaith i mewn a sicrhau cynnydd. O lefelau NVQ mewn gwahanol ardaloedd i swyddi amrywiol, fe wnes fethrin arbenigedd. Aeth fy llwybr â fi drwy feithrinfeydd, ysbytai a hyd yn oed ystafell ddosbarth yn Cyprus. Cesglais sgiliau, cwblhau cymwysterau a symud gwledydd. Heddiw, fel Arweinydd Tîm Strategaeth Gofal Plant, mae fy angerdd yn parhau mor gryf ag erioed, gan blethu cefnogaeth, dysgu ac addewid yfory mwy disglair ar gyfer pob plentyn.”

Lorna Sulway – Swyddog Cymorth ADY

“O gymorth gyda bwydo ar y fron i feithrin twf datblygiadol, bu fy nhaith mewn gofal plant yn fraint. Rwyf adeiladu gyrfa sydd wedi gwreiddio mewn trugaredd, gan esblygu o gefnogwr cymheiriaid bwydo ar y fron i fod yn Swyddog Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol, Mae pob cam, pob cymhwyster wedi porthi fy angerdd i sicrhau fod plant, beth bynnag eu hanghenion, yn cael y canlyniadau gorau posibl. Mae’n fwy na dim ond swydd i fi: mae’n ymroddiad i chwalu rhwystrau a chynnig cyfle i ffynnu i bob plentyn.”

Hayley Rawlings – Swyddog Gwella Ansawdd

“O angerdd am blant i daith gyrfa gwerth chweil, rwyf wedi croesawu pob cam o’r ffordd. Gan ddechrau gyda Diploma Genedlaethol BTEC mewn Gofal, rwyf wedi adeiladu ar fy ymroddiad drwy BA (Anrh) mewn Cynhwysiant Addysgol. Fe wnaeth gwirfoddoli gyda phlant anghenion ychwanegol yrru fy mhwrpas. Fe wnes gadw’r fantol rhwng prifysgol a bod yn fam, gan gael fy ngradd wythnos ar ôl rhoi genediaethol. Gyda phrofiad a ffocws ar dwf enillais Ddiplomau Lefel 5 mewn CCLD Ymarfer Uwch ac Arweinyddiaeth. Gan symud ymlaen o feithrinfeydd i Home Start ac wedyn yn Swyddog Gwella Ansawdd, rwy’n awr yn sicrhau safonau uchel mewn gofal plant tra’n cyflwyno hyfforddiant a chefnogi teuluoedd. Mae fy nhaith yn llawn gwobrau, dysgu a gwneud gwahaniaeth.”

Datganiadau Rhieni

“Roeddwn yn bryderus am roi fy mhlentyn mewn meithrinfa ond fe wnes ychydig o ymchwil a chanfod Little Stars. O’r diwrnod cyntaf fedrwn i ddim wedi bod yn fwy hapus gyda fy newis. Mae gan i bellach dri o blant sydd i gyd wedi bod yn Little Stars. Mae fy mhlant yn cael parch, gofal a chariad fel maent gyda’r teulu. Rwy’n teimlo mod i hefyd wedi dod yn rhan o’r celfi yma a bu’n wych eu gweld yn ffynnu yng ngofal Little Stars. Bu’n werthfawr tu hwnt i fi a fy ngŵr y gallwn fynd â’n plant yno a pheidio gorfod poeni am ddim byd gan eu bod yn cael gofal rhagorol. Maent yn cynnal digwyddiadau tymhorol hyfryd fel fod gan y plant bob amser rywbeth i edrych ymlaen eto. Mae’r dewis o brydau bwyd yn wych a mae fy mhlant yn bwyta mwy yn Stars na maen nhw gartref! Fedrwn i ddim bod yn fwy hapus gyda’r gwasanaeth a byddwn yn ei argymell yn uchel i fy holl ffrindiau sy’n rhieni.”

“Roedd yn rhaid i mi fynd yn ôl i’r gwaith yn weddol fuan ar ôl geni fy mab ac roeddwn yn nerfus am ei anfon i safle gofal plant, ond ar ôl clywed pethau da gan ffrindiau fe ddewisais Litle Stars. Rwyf mor hapus gyda’r penderfyniad. Cefais groeso ar fy ymweliad cyntaf, pawb yn siarad gyda fi ac yn bwysig rhoi sylw i a gwneud ffws o fy nghrwt bach. Roeddwn yn gwybod yn syth mai dyma lle’r oeddwn eisiau ei anfon. Mae pob un aelod o staff yn mynd yr ail filltir i wneud yn siŵr ei fod yn cael profiadau da a llawer o hwyl. Mae fy nghrwt bach wedi ffynnu ers ei fod yno. Lleoliad gofal plant gwych yr wyf yn ddiolchgar amdano!

“Mae fy mab yn dair a hanner a bu’n dod I Feithrinfa Little Stars ers mis Gorffennaf. 2022. Mae ganddo ADY ac ar y Sbectrwm Awtistig. Mae bob amser yn bryderus pan fydd eich plentyn yn mynd i safle newydd fodd bynnag fe wnaeth Little Stars fy ngwneud yn gyfforddus yn syth. Maent bob amser wedi rhoi llawer o sylw i anghenion fy mab ac er nad yw’n siarad, ni fu erioed unrhyw broblemau gyda chyfathrebu rhwng y staff ac ef. Mae wrth ei fodd yn mynd I Little Stars, ac yn hoff iawn o Yncl Tom ac Anti Laura a rwyf bob amser wedi cael perthynas agored gyda’r staff a maent wedi fy nghysuro ar y dyddiau anodd i Elijah ac sydd wedi achosi pryder I fi. Mae’r amgylchedd yn Little Stars bob amser yn gysurus a chroesawgar ac yn bwysicach fyth, yn ddiogel. Mae Natasha bob amser yn barod I helpu ac wedi ein cefnogi gydag unrhyw anghenion sydd gen i a fy mab. Mae’r feithrinfa yn 5 seren a byddwn yn ei hargymell yn uchel I blant sydd ag ADY oherwydd bod staff yn gofalu, maent yn cynnig cyngor ac yn gwneud atgyfeiriadau I’r cyrff cywir, sydd wedi bod o help enfawr i ni fel teulu. Ni fedraf ddolch digon iddynt I gyd ac os gallwn, fe fyddwn yn hoffi i fy mab fynd yno am weddill ei fywyd.”