Bydd casgliadau Ailgylchu a Gwastraff ddeuddydd yn hwyr yn ystod wythnos y Nadolig ac un diwrnod yn hwyr yn ystod cyfnod y Flwyddyn Newydd.
Y dyddiadau casglu dros dro ar gyfer yr Wythnos yn Dechrau Dydd Llun 23 Rhagfyr a Dydd Llun 30 Rhagfyr yw:
DIWRNOD CASGLU ARFERO | DIWRNOD CASGLU NEWYDD |
Dydd Llun 23 Rhagfyr 2024 |
DIWRNOD CASGLU ARFEROL |
Dydd Mawrth 24 Rhagfyr 2024 |
DIWRNOD CASGLU ARFEROL |
Dydd Mercher 25 Rhagfyr 2024 |
Dydd Gwener 27 Rhagfyr 2024 |
Dydd Iau 26 Rhagfyr 2024 |
Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr 2024 |
Dydd Gwener 27 Rhagfyr 2024 |
Dydd Sul 29 Rhagfyr 2024 |
Dydd Llun 30 Rhagfyr 2024 |
DIWRNOD CASGLU ARFEROL |
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr 2024 |
DIWRNOD CASGLU ARFEROL |
Dydd Mercher 1 Ionawr 2025 |
Dydd Iau 2 Ionawr 2025 |
Dydd Iau 2 Ionawr 2025 |
Dydd Gwener 3 Ionawr 2025 |
Dydd Gwener 3 Ionawr 2025 |
Dydd Sadwrn 4 Ionawr 2025 |
Yr Wythnos yn Dechrau Dydd Llun 6 Ionawr 2025. Bydd casgliadau’n ailddechrau yn ôl yr arfer. |
|
Dyma atgoffa Preswylwyr i barcio'n gyfrifol yn ystod cyfnod y Nadolig er mwyn osgoi unrhyw darfu ar eich casgliadau dyddiol a chasgliadau eich cymdogion. Os na fydd casgliadau’n gallu cael eu gwneud gan fod mynediad wedi'i rwystro, efallai na fydd criwiau'n gallu dychwelyd.
|
Cewynnau a Hylendid
Bydd sachau Cewynnau a Hylendid y Gwasanaeth Casglu yn cael eu casglu o'r man casglu arferol Ddydd Sul 29 Rhagfyr 2024 a Dydd Sadwrn 4 Ionawr 2025.
Ailgylchu Eich Coeden Nadolig Go Iawn
Bydd Adran Gwastraff y Cyngor yn cynnig gwasanaeth i gasglu ac ailgylchu eich Coeden Nadolig Go Iawn o Ddydd Llun 6 Ionawr 2025. Cofrestrwch ar adran Fy Ngwasanaethau Cyngor ar wefan y Cyngor yn www.blaenau-gwent.gov.uk i gadarnhau diwrnod casglu ar gyfer eich Coeden Nadolig.
Casgliadau Gwastraff Swmpus
Bydd casgliadau'n ailddechrau Ddydd Llun 6 Ionawr 2025. Cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 neu ewch i Fy Ngwasanaethau Cyngor yn www.blaenau-gwent.gov.uk i drefnu casgliad.
Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref [CAGCau], Safleoedd Bro Newydd a Roseheyworth
Ystâd Ddiwydiannol Waun-y-Pound, Glynebwy, NP23 6PL
Parc Busnes Roseheyworth, Ffordd Roseheyworth, Abertyleri, NP13 1SP
Bydd Canolfannau Ailgylchu'r Cyngor ar agor yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd rhwng 9.00am a 5.30pm [mynediad olaf am 5.20pm], er mwyn i breswylwyr gael gwared ar ddeunydd gwastraff.
Bydd y ddau safle ar gau ar Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan yn unig.
Bydd y ddau safle yn dal i fod ar gau ar eu diwrnodau cau arferol, sef bob Dydd Mawrth a Dydd Mercher yn Roseheyworth a phob Dydd Iau a Dydd Gwener yn y Fro Newydd.
Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y Nadolig
Ailgylchwch Gardiau Cyfarch Plaen Yn Unig - Ni allwn dderbyn cardiau Nadolig gyda gliter neu ategolion fel rhubanau, pom-poms, gleiniau ac ati fel rhan o'n casgliad ailgylchu a bydd angen i chi eu rhoi nhw yn eich bagiau du.
Papur Lapio’r Nadolig – Does dim modd ei ailgylchu, rhowch e mewn bag/bin du ar gyfer eich casgliad sbwriel bob 3 wythnos.
Papur Brown a Llwyd - i'w gynnwys gyda chardfwrdd i'w ailgylchu.
Cardfwrdd – Gofynnir i breswylwyr blygu a thorri eu cardfwrdd a'i osod yn eu sach(au) casglu gwyn pwrpasol. Sylwch y bydd cardfwrdd yn dal i gael ei ailgylchu waeth pa gerbyd sy’n ei gasglu.
Dylai unrhyw Gardfwrdd Mawr/Swmpus na ellir ei dorri i ffitio yn y sach(au) casglu gwyn pwrpasol gael ei gludo i Ganolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref y Fro Newydd, Glynebwy a Roseheyworth, Abertyleri.
Unrhyw Bolystyren - Bydd angen ei roi yn eich bagiau du i'w gasglu.
Lwfans Bagiau Du – Dyma atgoffa'r holl breswylwyr fod yr holl lwfansau gwastraff bagiau du – naill ai pedwar bag du neu un bin olwynion – yn dal i fod ar waith dros gyfnod yr ŵyl. Ni fyddwn yn casglu unrhyw wastraff ychwanegol wrth ochr neu ar ben eich bin sy'n fwy na'r lwfans pedwar bag du / un bin olwynion. Bydd y gwaith o orfodi'r polisi hwn yn parhau dros gyfnod y Nadolig.
Gwastraff Gormodol - Gall preswylwyr fynd ag unrhyw wastraff bagiau du gormodol i'n Canolfannau Ailgylchu [wedi'i gyfyngu i 4 bag du] ond gwnewch yn siŵr fod yr holl ailgylchu wedi'i dynnu o’r bagiau cyn ymweld â'r safle.
Eitemau Trydanol Bach, Batris a Thecstilau - Gellir eu casglu'n wythnosol ar yr un pryd â'ch casgliad ailgylchu rheolaidd. Rhowch yr eitemau mewn bagiau a'u rhoi naill ai ar ben neu wrth ochr eich cynwysyddion ailgylchu.
Mae eich ailgylchu yn gwneud gwahaniaeth mawr... diolch