Cafodd Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn y Blaenau, Blaenau Gwent ei chydnabod am ei gwaith caled yn cefnogi gofalwyr Ifanc yn yr ysgol, drwy ennill gwobr ‘Arfer Gorau’ Gofalwyr Ifanc The Care Collective.
Dywedodd Miss Carys Jones, Ymarferydd Arweiniol Gofalwyr Ifanc yn yr ysgol:
“Rydym yn falch iawn y cafodd ein gwaith ei gydnabod, ond yn bwysicach, mae’n dda gwybod fod pob un yn ein Grŵp Gofalwyr Ifanc yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth dda gan gymuned yr ysgol.â€
Cyflwynwyd ffeil tystiolaeth fawr i’r panel, yn arddangos ymrwymiad yr ysgol gyfan i gefnogi disgyblion yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r mater.
Dywedodd Ms Ann Toghill, Pennaeth yr ysgol:
“Rydym yn falch iawn o waith ein Grŵp Gofalwyr Ifanc i hyrwyddo’r mater o fewn yr ysgol a rydym mor falch y cafodd eu hymdrechion ei gydnabod gan y panel dyfarnu. Diolch i Miss Jones a’r Gofalwyr Ifanc am arwain yr ysgol mor effeithol ar hun – llongyfarchiadau mawr!â€
Caiff y rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion, a nodir gan Lywodraeth Cymru fel arfer da, ei ariannu ar hyn o bryd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chyngor Sir Fynwy.
Nod y Rhaglen Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion yw rhoi’r dulliau a’r adnoddau i gefnogi gofalwyr ifanc a gostwng effeithiau negyddol, gan roi’r un mynediad i addysg a chyfleoedd bywyd yn y dyfodol â’u cyfoedion i ofalwyr ifanc.
A oes gennych chi ddiddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg? Mae Cyngor Blaenau Gwent, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, yn adeiladu ail ysgol gynradd Gymraeg yn Nhredegar. Mae mwy o wybodaeth ar fod yn ddwyieithog yn /en/resident/schools-learning/becoming-bilingual/