Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a’i bartneriaid yn falch i gyflwyno enillwyr Gwobrau Busnes Blaenau Gwent 2020. Cynhelir digwyddiad eleni drwy seremoni rithiol. Nod y gwobrau yw dathlu llwyddiannau unigolion a busnesau bach a chanolig ym maes entrepreneuriaeth ym Mlaenau Gwent.
Mae wyth categori yn y Gwobrau Busnes gyda chategori ychwanegol Busnes y Flwyddyn a gyhoeddir ar y noswaith.
Entrepreneur y Flwyddyn – Noddir gan UK Steel Enterprise
Enillydd: Matthew Burkitt - Candour Talent
Yn y rownd derfynol:
Sarah Hancock - Louby Lou Storytelling
Peter Jones - Eden Education
Busnes Micro y Flwyddyn (cyflogi 1-10) – Noddir gan Fanc Datblygu Cymru
Enillydd: The Pure Option
Yn y rownd derfynol:
Community Fitness
Louby Lou Storytelling
Busnes Bach y Flwyddyn (cyflogi 11 – 49) – Noddir gan Natwest / Hyb Busnes Blaenau Gwent
Enillydd: Motion Rail Limited
Yn y rownd derfynol:
Candour Talent
Clam's Cake
Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn – Noddir gan Continental Teves
Enillydd: Swan EMS
Yn y rownd derfynol:
Performance Masterbatches
Seren Lighting
Rhagoriaeth mewn Arloesedd a Thechnoleg – Noddir gan Thales
Enillydd: Radical Materials
Yn y rownd derfynol:
Motion Rail
Performance Masterbatches
Busnes Manwerthu neu Wasanaeth y Flwyddyn – Noddir gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin
Enillydd: Audiology Associates
Yn y rownd derfynol:
Dizzy Kids
Candour Talent
Menter Gymdeithasol neu Fusnes Cymunedol y Flwyddyn – Noddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Enillydd: Sinema Neuadd y Farchnad
Yn y rownd derfynol:
Cymdeithas Cartrefi Tai Calon
Tillery Action for You Ltd
Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn – Noddir gan Rheoli Cyrchfan BG
Enillydd: Hamdden Aneurin
Yn y rownd derfynol
Sinema Neuadd y Farchad
Busnes y Flwyddyn Blaenau Gwent – Noddir gan Lywodraeth Cymru
Enillydd: Motion Rail Limited
Dywedodd y Cyng Dai Davies, Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
“Mae eleni wedi cyflwyno llu o heriau, yn neilltuol ar gyfer busnesau. Felly mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cydnabod a dathlu llwyddiant a’r hyn a gyflawnodd busnesau ym Mlaenau Gwent. Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr a phawb yn y rowndiau terfynol. Roedd ansawdd a nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn rhagori ar ein disgwyliadau. Bu hyn yn gyfle i ni ddangos yr ystod eang o fusnesau llwyddiannus, talentog, creadigol ac arloesol sydd gennym. Hoffwn ddiolch i’r noddwyr sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru a’r holl fusnesau a gymerodd ran yn y broses wobrau ar hyd y ffordd.â€