¹û¶³´«Ã½app

Cymorth Prydau Ysgol am Ddim i barhau drwy wyliau’r haf

Mae Cyngor Blaenau Gwent heddiw wedi cymeradwyo cyllid i barhau i ddarparu cymorth ariannol i deuluoedd sy’n gymwys am Brydau Ysgol am Ddim drwy gydol gwyliau’r haf.

Bydd teuluoedd cymwys yn parhau i fod â hawl i daliad uniongyrchol o £19.50 yr wythnos fesul plentyn dros gyfnod y gwyliau. Pan ddychwelant i’r ysgol ym mis Medi, bydd gan pob disgybl ysgol gynradd hawl i ginio ysgol am ddim yn ystod tymhorau ysgol.

Fe wnaeth cynghorwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol heddiw roi cefnogaeth unfrydol i dyniad un-tro o gronfeydd wrth gefn i ariannu’r cynllun, a gafodd yn flaenorol ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ers dechrau’r pandemig. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar na fyddai bellach yn cyllido’r ddarpariaeth yn ystod y gwyliau.

Codwyd pryderon yn lleol am sut y gallai dileu’r cymorth effeithio ar deuluoedd bregus ac incwm isel ym Mlaenau Gwent, wrth i’r argyfwng costau byw barhau i gael effaith sylweddol.

Dywedodd Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg:

“Manteisiodd dros 2,500 o blant o’r taliad Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y gwyliau hanner tymor diwethaf ym mis Mai, mae hynny yn llawer o blant a allai o bosibl ddioddef fel canlyniad i golli’r cymorth hwnnw.

“Rydym yn cydnabod sefyllfa Llywodraeth Cymru yn peidio parhau i ariannu’r cynllun ar draws Cymru, ac felly rydym wedi edrych yn lleol i weld beth y gallem ni fel Cyngor ei wneud i sicrhau y gellir parhau i ddarparu’r cymorth hwn dros wyliau’r haf.

“Gan fod yr argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith sylweddol, mae’n hanfodol fod gan ein plant a phobl ifanc fwyd ar gael ac y gellir cymryd peth pwysau oddi ar y teuluoedd hyn fel y gallant fwynhau’r gwyliau gyda’i gilydd. Rwy’n falch fod pob cydweithiwr gwleidyddol wedi cydnabod pwysigrwydd hyn a’n bod wedi medru dod ynghyd i gynnig cymorth i rai o’n teuluoedd mwyaf bregus ac incwm isel ym Mlaenau Gwent.â€