Mae Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr (cyfnod uwchradd) wedi’i hanrhydeddu â gwobr aur fawreddog y Siarter Iaith Rhanbarthol am ei hymdrechion rhagorol i ddatblygu dwyieithrwydd. Mae'r anrhydedd hwn yn cydnabod ymrwymiad yr ysgol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ar draws ei chymuned.
Mae’r ysgol wedi cyflawni’r garreg filltir hon trwy flaenoriaethu dwyieithrwydd fel menter ysgol gyfan a chefnogi gweithgareddau sy’n adeiladu ar gyflawniadau’r wobr arian. Mae’r gymuned ysgol gyfan, gan gynnwys staff a myfyrwyr, yn llysgenhadon dros y Gymraeg, gan gymryd rhan weithredol mewn cynllunio cyfleoedd ar gyfer ymwybyddiaeth iaith a diwylliant.
Mae uchafbwyntiau allweddol ymdrechion yr ysgol yn cynnwys:
- Cydnabod cyfleoedd i atgyfnerthu diwylliant Cymru ar draws gwahanol feysydd dysgu a phrofiad (MDPh)
- Sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o weledigaeth yr ysgol ar gyfer y Gymraeg ac yn cymryd cyfrifoldeb am eu taith bersonol a phroffesiynol
- Hyrwyddo naws Gymreig trwy ddylanwad y Criw Cymraeg gydag ystod eang o fentrau
- Dangos ymrwymiad i wneud defnydd o'r Gymraeg yn weladwy ac yn glywadwy y tu allan i'r dosbarth ac i'r gymuned ehangach
Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) wedi mynegi ei ddiolchgarwch i’r ysgol am fanteisio ar y cyfle hwn a chydnabod y rôl ganolog y mae dwyieithrwydd yn ei chwarae yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r GCA yn edrych ymlaen at gefnogi’r ysgol ymhellach wrth iddi barhau i ymgorffori a mireinio ei harferion i gynnal gofynion y wobr aur.
Dywedodd y Pennaeth, Melanie Thomas: “Fel ysgol rydym wrth ein bodd gyda’r wobr hon, mae’n cydnabod y gwaith caled a’r ymroddiad a wneir gan fyfyrwyr a staff i gofleidio’r Gymraeg. Edrychwn ymlaen at barhau â’n taith i gofleidio’r diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg.â€