¹û¶³´«Ã½app

Cyngor Blaenau Gwent yn cydnabod ei Chasglwyr Sbwriel am eu gwaith rhagorol

Trwy gydol y flwyddyn mae Casglwyr Sbwriel o bob oed o ysgolion, cymunedau, grwpiau gwirfoddoli a phartneriaethau Blaenau Gwent wedi bod yn brysur yn tacluso’r fwrdeistref.  Mae sesiynau Casglu Sbwriel, sy’n cael eu trefnu gan y Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol, John Mewett, wedi bod yn cael eu cynnal, a chasglwyd cryn dipyn o sbwriel, gan ei ailgylchu lle bo hynny'n bosibl, nid yn unig o'r stryd fawr a meysydd parcio ond hefyd o fannau lletchwith eu cyrraedd. 

I gydnabod yr holl waith caled sydd wedi digwydd, mae'r Cyngor wedi trefnu digwyddiadau i ddangos ei werthfawrogiad gyda'r nesaf i'w gynnal ar:
•   11 Rhagfyr 6pm TÅ· Bedwellte, Tredegar NP22 3XN
•   17 Rhagfyr 6pm Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN

Mae'r digwyddiadau'n anffurfiol, felly gall unrhyw un sy'n ystyried casglu sbwriel yn y dyfodol ddod draw i ddysgu mwy am y gwaith, yr offer a ddefnyddir (i gyd ar gael gennym ni) a sut y gallwch chi helpu. Mae'r digwyddiadau'n dod â phawb at ei gilydd mewn amgylchedd croesawgar am sgwrs. Mae ’na fwffe a bydd John yno i ateb unrhyw gwestiynau.

Os na allwch ddod ond eich bod yn dymuno gwirfoddoli i Gasglu Sbwriel yn y flwyddyn newydd, cysylltwch â:
John Mewett - Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol
E-bost: john.mewett@blaenau-gwent.gov.uk

John Mewett, Swyddog AALl Cyngor Blaenau Gwent, yn cyflwyno mewn digwyddiad llwyddiannus diweddar yng Nghanolfan Ailgylchu a Gwastraff y Cartref (HWRC) Abertyleri.