Mae Cyngor Blaenau Gwent yn arwain y ffordd yng Nghymru am ddod â thipwyr anghyfreithlon o flaen eu gwell, yn ôl ffigyrau newydd. Mae'r ardal hefyd yn parhau i weld gostyngiad yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon, mewn cyferbyniad â thueddiadau cenedlaethol sy'n dangos eu bod yn dal i godi mewn mannau eraill.
Mae gwaith tîm gorfodi penodedig a gyflwynwyd yn 2021 yn parhau i gael effaith wirioneddol ar fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Cafodd y ffigyrau diweddaraf ar gyfer tipio anghyfreithlon eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar. Gellir dod o hyd i'r holl ddata
Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi gweld gostyngiad o 21% yn nifer y digwyddiadau a gofnodwyd rhwng 2022/23 a 2023/24, o 1,200 i 950, a gostyngiad o 43% ers i'r tîm gorfodi newydd gael ei greu yn 2021 (o 1,650 i 950). Yn genedlaethol, mae tipio anghyfreithlon wedi cynyddu o 39,853 yn 2022/23 i 42,171 yn 2023/24, cynnydd o 6%.
Mae’r Cyngor yn yr ail safle o blith awdurdodau Cymru o ran nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd, gyda 170 o hysbysiadau tipio anghyfreithlon a dyletswydd gofal masnachol wedi'u cyhoeddi yn 2023/24. Wrth edrych ar hyn fesul pen o'r boblogaeth, mae Blaenau Gwent ymhell ar y blaen.
O ran erlyniadau, Blaenau Gwent sy'n arwain y ffordd, gyda 44 o droseddau gwastraff yn cael eu herlyn yn llwyddiannus drwy'r llysoedd yn 2023/24. Mae naw person arall wrthi’n aros am wrandawiadau am 16 trosedd wastraff arall, a nifer o erlyniadau ychwanegol yn dechrau ar y broses gyfreithiol.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd:
"Mae hyn yn waith gwych gan bawb sy'n cyfrannu at y frwydr yn erbyn tipio anghyfreithlon, o'r tîm ei hun i'r trigolion sy'n gweithio gyda ni i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell. Ni fyddwn yn goddef tipio anghyfreithlon yn ein bwrdeistref, ac rydym yn sefyll yn gadarn gyda thrigolion y mae’r ymddygiad hwn yn eu ffieiddio. Mae digwyddiadau tipio anghyfreithlon yn parhau i ostwng, ac mae troseddwyr yn dysgu y bydd y Cyngor yn gweithredu’n llym yn erbyn y rhai sy'n cyflawni'r drosedd wrthgymdeithasol ac amgylcheddol hon."
Fel bob amser, hoffem atgoffa pobl mai nhw sy’n gyfrifol am unrhyw wastraff sy'n gadael eu heiddo, hyd yn oed os ydych chi wedi talu rhywun i'w waredu. Dysgwch fwy am ddyletswydd gofal eich cartref yma.