Heddiw, mae Cyngor Blaenau Gwent wedi llofnodi Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru, gan gryfhau ei ymrwymiad i sicrhau'r gwasanaethau a'r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Datblygwyd Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru, 'Addewid i Gymru', mewn cydweithrediad â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae plentyn neu berson ifanc sydd â phrofiad o ofal yn rhywun sydd wedi bod mewn gofal neu sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd neu sydd o gefndir o dderbyn gofal ar unrhyw adeg yn eu bywyd, waeth pa mor fyr, gan gynnwys plant mabwysiedig a oedd yn derbyn gofal gynt.
Llofnodwyd y Siarter yn y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy heddiw gan y Cynghorydd Haydn Trollope, yr Aelod Cabinet dros Bobl a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r Prif Weithredwr, Stephen Vickers.
Mae'r Siarter yn nodi 11 egwyddor ar gydraddoldeb, dileu stigma, gweithio gyda'n gilydd, cefnogaeth gynhwysol, cyflawni uchelgeisiau, meithrin, iechyd da, cartref sefydlog, addysg, ffynnu yn y dyfodol, a chymorth ar ôl gofal. Mae hefyd yn gosod 9 addewid ar gyfer sut y bydd plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael eu trin, eu clywed, a'u cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod popeth a wnawn ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael ei ategu gan rymuso, cydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cyfranogiad, ac atebolrwydd ac amddiffyniad. Disgwylir i’w hawliau dynol gael eu parchu, eu hamddiffyn a’u hyrwyddo yn llawn o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae'r addewid yn cynnwys ymrwymiad i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i fesur llwyddiant sefydliadol ac ymrwymiad i'r Siarter.
Bydd y Cyngor yn cynnal cyfres o weithdai gyda staff, aelodau a'n plant sydd â phrofiad o ofal i godi ymwybyddiaeth a sicrhau bod cefnogaeth yn gyffredin ar draws y sefydliad.
Dywedodd y Cynghorydd Haydn Trollope:
"Mae llofnodi'r Siarter Rhianta Corfforaethol heddiw yn dangos ein hymrwymiad cryf, parhaus i sicrhau'r gorau i'n plant a'n pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gan sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd bywyd y mae pob person ifanc yn eu haeddu. Mae'n bwysig bod gan sefydliadau fel ein un ni ddealltwriaeth gyffredin ymhlith ein gweithlu ac aelodau etholedig o'r disgwyliad uchel ar gyfer rhianta ein pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal fel y gallant ffynnu a chyflawni eu potensial.
"Byddwn yn sicrhau bod ein holl ymdrechion dros ein pobl ifanc yn cael eu harwain gan ystyriaethau o gydraddoldeb, grymuso ac amddiffyn a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau eu lles a chyflawni'r nodau a'r dyheadau cyffredin ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc."
Dywedodd y Prif Weithredwr Stephen Vickers:
"Mae'r Siarter a'i haddewidion wedi'u cynllunio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wrth eu gwraidd. Roedd y neges o Uwchgynhadledd Pobl sy’n Gadael Gofal Llywodraeth Cymru, a ddefnyddiwyd i helpu i ddatblygu'r Siarter, yn glir – mae’r bobl ifanc hyn eisiau i’w hawliau gael eu parchu’n gyfartal, ac i’w lleisiau gael eu clywed, eu hystyried a’u hadlewyrchu wrth weithredu. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r weledigaeth radical, uchelgeisiol a chydgysylltiedig hon ar gyfer y dyfodol."
Nodyn:
Gellir diffinio'r term 'rhianta corfforaethol' fel un sy'n hyrwyddo cyfrifoldeb cyfunol y sector cyhoeddus cyfan i ddiogelu a hyrwyddo hawliau a chyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae hyn yn gyfrifoldeb ar bawb sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus.