¹û¶³´«Ã½app

Cyngor Blaenau Gwent yn sicrhau £500k a chanfod cyflenwyr i helpu sicrhau nod niwtral o ran carbon erbyn 2030

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £500k i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, drwy Her Arloesedd Ymchwil Busnes System Gyfan ar gyfer Datgarboneiddio, i ddatblygu datrysiad i her y Cyngor o – Datblygu Datrysiadau Enghreifftiol Llwyfan Diwydiannol a Masnachol Deallus i sicrhau Deilliannau Sero Net.

Bydd y cyllid yn galluogi’r Cyngor i symud i Gam 2 yr her sy’n golygu gweithio gyda dau gyflenwr. Byddant yn profi ac yn peilota pob datrysiad i helpu’r Cyngor tuag at ei nod datgarboneiddio dros y flwyddyn nesaf. Cafodd y gystadleuaeth ei lansio yng Ngham 1 ac fe wnaeth 11 cwmni gynnig am y cyfle ar gyfer y cyfle a lluniwyd rhestr fer o bedwar cyflenwr.

Gwelodd Cam 2 y nifer hwnnw yn gostwng i ddim ond dau gyflenwyr, gyda Stortera a BankEnergi yn cael cyfran o’r cyllid i barhau gwaith dros y flwyddyn nesaf.

Mae StorTera yn ddarparydd datrysiadau storio ynni seiliedig yng Nghaeredin sy’n gweithio i chwyldroi’r diwydiant storio ynni. Mae BankEnergi yn gonsortiwm yn cynnwys Consortio, IBECCS, carbonTRACK UK, Wales & West Utilities a Bank Energi. Mae’r consortiwm wedi cydweithio ar nifer o brosiectau blaenorol o feddwl systemau cyfan i brosiectau Ffynnu o’r Chwyldro Ynni yn gysylltiedig a masnachu ynni a hyblygrwydd.

Bydd y cwmnïau yn dangos eu datrysiadau sy’n cynnwys llwyfan masnachu ynni yn defnyddio cynhyrchu ynni adnewyddadwy a gosod offer newydd yn cynnwys storfeydd batri, PV solar, pwmp gwres a dulliau rheoli deallusrwydd artiffisial. Bydd hyn yn gwneud y defnydd gorau o berfformiad a defnyddio ynni gyda golwg ar ddatgarboneiddio parciau busnes.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:
"Rwy’n falch iawn i ni sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru fydd yn ein galluogi i symud ymlaen i Gam 2 y prosiect. Bydd hyn yn cyflwyno datrysiadau drwy fesurau ymarferol go iawn i nodi’r hyn y gallwn ei gyflawni yn y dyfodol. Mae’n rhaid i Gyngor Blaenau Gwent wneud popeth a all i ostwng allyriadau carbon os ydym i gyflawni ein targed yn 2030 o ddod yn sefydliad niwtral o ran carbon. Mae mor gadarnhaol ein bod yn gweithredu ar newid hinsawdd heddiw fel y gallwn i gyd fanteisio o well yfory.â€

Mae’r Cyngor yn falch iawn i symud i Gam 2 y prosiect a fydd yn helpu i ostwng allyriadau carbon drwyddi draw ar draws y fwrdeistref a chyflawni eu huchelgais i ddod yn sefydliad niwtral o ran carbon erbyn 2030.