Sefydlwyd elusen Settle yn 2019 i helpu dinasyddion yr UE yn y DU yr oedd Brexit yn effeithio ar eu hawliau. Maent wedi gweithio’n galed i sicrhau fod cynifer o unigolion ag oedd modd yn cael eu statws mewnfudo cyn y dyddiad cau ym Mehefin 2021, fel y gallai eu bywydau yma barhau.
Mae  yn falch iawn i dderbyn cyllid newydd gan y Swyddfa Gartref i gefnogi dinasyddion o’r UE a’u teuluoedd yng Nghymru i wneud ceisiadau EUSS llwyddiannus.
Cyflwynir y prosiect mewn partneriaeth gyda TGP Cymru a bydd yn parhau tan fis Mawrth 2025. Caiff y gwasanaeth ei restru ar wefan y Llywodraeth ynghyd â manylion cyswllt y prosiect:
Gallai’r gwasanaeth fod o fudd i unrhyw ddinesydd UE/EEA yng Nghymru sydd angen help i wneud cais hwyr i’r cynllun, uwchraddio eu statws o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog, neu ymchwilio dod ag aelodau o’u teulu i’r DU. Atodir ffurflen atgyfeirio Preswylydd Sefydlog.
Eu llinell gymorth amlieithog, rhad ac am ddim yw 0330 223 5336, a’r cyfeiriad e-bost newydd ar gyfer y gwasanaeth yw ApplyEUSSWales@settled.org.uk.
Mae Settled yn croesawu ymholiadau gan gleientiaid ac atgyfeirwyr.