¹û¶³´«Ã½app

Dadl ysgoldrafod i nodi 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG

Ar y 6ed o Orffennaf cymerodd disgyblion o Ysgolion Cyfun Tredegar a Brynmawr ran mewn sesiwn drafod i nodi 75 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Cynhaliwyd y ddadl yn y Siambrau yn Nhŷ Bedwellty a Pharc Tredegar, lle’r oedd Aneurin Bevan, sylfaenydd y GIG yn eistedd ar un adeg. Agorodd y Cynghorydd John Morgan y sesiwn drwy ddarparu ychydig o hanes y Clwb Ymholiadau a oedd yn gymdeithas ddadlau lled-gyfrinachol o sosialiaid ifanc o’r un meddylfryd a sefydlwyd gan Nye Bevan, Billy Bevan, Walter Conway, Archie Lush, Oliver Jones a nifer o ffrindiau eraill. Roedd yna hefyd ffilm fer am ‘Nye’ Bevan.

Ìý

Roedd gan y ddadl ddau bwnc a ddarparwyd i'r disgyblion ymlaen llaw i'w paratoi.

Pwnc Un - A ddylai'r GIG fod yn rhad ac am ddim yn y pwynt cyswllt?
Cymerodd y disgyblion y llawr, pedwar a thri ar y tro, cafodd pob disgybl gyfle i gyflwyno eu pwyntiau ac yn ystod y rownd hon pleidleisiodd y disgyblion pwy oedd â’r dadleuon cryfaf yn eu barn nhw, a oedd yn caniatáu i’r holl ddisgyblion gyfranogi’n llawn. Dewiswyd pedwar disgybl o rownd un, dau ddisgybl o bob un o'r ysgolion.

Pwnc Dau - Ydych chi'n meddwl y dylai pobl gymryd mwy o berchnogaeth dros eu lles? Beth fyddai’r effaith ar y GIG?
Roedd pob disgybl yn gallu cyflwyno ei ddadleuon o amgylch pwnc dau, gyda'r disgyblion eraill i gyd yn gwrando wrth i'r disgyblion siarad. Yn ystod y cyfnod hwn, gwrandawodd y Cynghorydd Sue Edmunds (Aelod Cabinet dros Addysg), Alyson Tippings (Aelod o Staff Blaenau Gwent) a Kevin Phillips (Cymru Creations) ar y dadleuon a gyflwynwyd i farnu pwy oedd enillydd cyffredinol y diwrnod yn eu barn nhw.

Tra bod y panelwyr yn ystyried pwy ddylai'r enillydd fod rhoddwyd cyfle i'r disgyblion gael dadl agored lle cyflwynwyd cwestiynau'n uniongyrchol i'r pedwar disgybl olaf ar y pwyntiau a godwyd ganddynt. Roedd yn caniatáu i'r disgyblion archwilio dadlau trwy gymryd rhan, bod yn barchus, yn ogystal ag amlygu eu barn a'u safbwyntiau eu hunain. Diolchodd y Cynghorydd Sue Edmunds i'r holl ddisgyblion am gymryd rhan yn ogystal ag ailadrodd iddynt i gyd pa mor dda yr oeddent wedi'i wneud drwy gydol y sesiwn, gan grynhoi'r pynciau pwysig a godwyd ganddynt, a'i bod yn iawn cael a ffurfio barn wahanol. “Mae’n ymwneud â thrafodaeth ac mae trafodaeth yn iachâ€

Ìý

Enillydd cyffredinol y diwrnod oedd Emma, disgybl o Ysgol Gyfun Tredegar.

Ìý

Llongyfarchodd y Cynghorydd John Morgan y disgyblion am gymryd rhan yn y diwrnod a diolchodd i bawb am ddod. “Roedd hon yn sesiwn mor bleserus; un rydyn ni'n gobeithio ei ailadrodd eto!"