果冻传媒app

Dal i weini cinio ysgol yn 80 – Pen-blwydd Hapus Gill a Sonia!

Dymuniadau gorau i ddwy o'n cynorthwywyr arlwyo ysgolion, sy'n dathlu eu pen-blwydd yn 80 oed y mis hwn, tra鈥檔 parhau i weini cinio i blant ym Mlaenau Gwent.

Mae Sonia Blanchard a Gillian Morris ill dwy鈥檔 cyrraedd y garreg filltir hon fis yma, a dydyn nhw ddim yn barod i hongian eu ffedogau i fyny eto! Mae'r ddwy ohonyn nhw'n dal i garu'r swydd sydd, yn eu barn nhw, yn eu cadw nhw鈥檔 iach a hapus. Maen nhw wrth eu bodd yn gweld wynebau hapus y plant a chlywed eu straeon bob dydd.

Cafodd nain Gillian Morris ei geni a'i magu yn Nant-y-glo ac mae'n gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Cyn hynny, bu'n gweithio yn hen Ysgol Gyfun Nant-y-glo ychydig i fyny'r ffordd.

Mae Sonia Blanchard, sy鈥檔 hen fam-gu, wedi gweithio yn Ysgol Gynradd y Cwm yn ei phentref genedigol ers dros 40 mlynedd.

Mae'r ddwy ddynes yn disgrifio'r ysgolion lle maen nhw'n gweithio fel 'un teulu mawr' sydd i gyd yn gefnogol iawn i'w gilydd.

Ar 么l 33 mlynedd yn y swydd, mae Gillian yn dal i fwynhau dawnsio roc a r么l o gwmpas y gegin ac yn troi'r radio i fyny鈥檔 slei bach wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer amser cinio. Pan ofynnwyd iddi pam ei bod hi鈥檔 dal i weithio yn 80 oed, dywedodd: "Rydw i wrth fy modd ac mae'n fy nghadw'n heini ac yn iach! Mae mor werth chweil, ac rydw i wrth fy modd yn gweld wynebau'r plant a rhannu straeon a j么cs gyda nhw."

Mae Gillian hefyd yn dysgu rhai ymadroddion Cymraeg gan ddisgyblion yn yr ysgol Gymraeg, "Mae'n anhygoel eu clywed nhw鈥檔 siarad yn Gymraeg," meddai.

Gill Morris

Dywed Sonia, sydd hefyd yn dathlu 60 mlynedd o briodas i鈥檞 g诺r Idris yn yr un mis, ei bod hi wrth ei bodd yn dod i'r gwaith bob dydd. "Dwi wastad yn hoffi bod yn brysur a chael nod. I fi, dyna beth yw gwaith, a helpu allan gyda fy ngorwyrion wrth gwrs," meddai. "Dwi wir yn mwynhau cwmni hyfryd y merched yn y gegin a鈥檙 plant. Mae wedi bod yn wych gweld cenedlaethau o deuluoedd yn dod drwodd."

Sonia Blanchard

Bydd Sonia a Gillian yn dathlu eu diwrnodau mawr gyda'u teuluoedd, ac rydyn ni鈥檔 si诺r fod ambell sypr茅is ar y gweill.

Dymunwn y gorau iddynt a diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth i'n plant a'n pobl ifanc yma ym Mlaenau Gwent.

Gill Morris

Sonia Blanchard