šűśł´ŤĂ˝app

Daliwch ati gyda’r ymdrech ailgylchu GWYCH dros y Nadolig i helpu Cymru i gyrraedd y brig

Wrth i gyfradd ailgylchu Cymru gyrraedd lefel uwch nag erioed, rydyn ni’n galw ar ein trigolion i ddal ati gyda’u hymdrechion ‘gwych’ i ailgylchu dros y Nadolig eleni. 

Mae 92% ohonon ni’n ailgylchu’n rheolaidd*, sy’n gwneud Cymru yn genedl o Ailgylchwyr Gwych. Ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac rydyn ni’n cefnogi Ymgyrch Gwych Cymru yn Ailgylchu i gael Cymru i fod y genedl ailgylchu orau un.

Datgelodd y data ailgylchu diweddaraf ein bod un cam yn nes at gyrraedd y brig. Er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil COVID-19, cafwyd cynnydd mawr yng nghyfradd ailgylchu gyffredinol Cymru eleni, fe gododd o 63% i 65%**. Mae hyn yn golygu ein bod nawr yn ailgylchu 65% o’n gwastraff, sy’n rhagori ar darged Llywodraeth Cymru o 64% ar gyfer eleni.

Dangosodd arolwg diweddar hefyd bod 55% ohonom yn ailgylchu mwy nag yr oeddem ni’r adeg hon y llynedd*, a phryderon amgylcheddol yw un o’r prif resymau dros wneud. Mae hynny’n wych, ond gan fod bron i’n hanner ni yn dal i beidio ag ailgylchu popeth posibl, mae mwy y gallwn ni ei wneud o hyd. Os rydyn ni am helpu Cymru i fynd o’r drydedd genedl orau yn y byd i’r gorau un, a dal ati i warchod ein hadnoddau gwerthfawr, mae angen inni oll ymdrechu dros y Nadolig eleni.
Gan amlaf, dros y Nadolig rydyn ni’n creu mwy o wastraff gartref nag unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. O’r holl fwyd ychwanegol rydyn ni’n ei fwyta i’r mynyddoedd o ddeunyddiau pacio o’r anrhegion Nadolig, dyma gyfle delfrydol i wneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu popeth posibl.

Dyna pam rydyn ni’n cefnogi’r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, i annog pawb yng Nghymru i fod yn Ailgylchwyr Gwych dros y Nadolig eleni.

Dywedodd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymunedol:

 â€œMae dinasyddion Cymru’n dangos eu bod yn WYCH gyda’u hailgylchu, ac mae eisiau inni oll fod yn falch o’n hymdrechion, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Rydyn ni’n galw ar ein preswylwyr i ddal ati gyda’r gwaith da dros y Nadolig i’n helpu i gyrraedd y brig!”

“Fe wyddom fod pobl Cymru’n malio am warchod ein gwlad hardd ac mae ailgylchu’n chwarae rhan hanfodol wrth daclo newid hinsawdd. Dyma beth syml y gall pawb ei wneud i helpu i wneud gwahaniaeth go iawn”.

Dyma syniadau ar gyfer bod yn Ailgylchwr Gwych dros y Nadolig eleni:
• Bwytewch, ailgylchwch, byddwch lawen. Mae pob Cyngor yng Nghymru’n darparu gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol. Defnyddiwch ef, da chi. Gellir ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw fwyd dros ben o’r cinio Nadolig (y pethau na ellir eu bwyta’n ddiogel yn nes ymlaen)!. A daliwch ati i ailgylchu gwastraff arall dros yr Ĺ´yl hefyd, fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion a chreiddiau ffrwythau, a hen fara.
• Concro’r cardbord dros y Dolig. Gellir ailgylchu’r holl gardbord a ddaw gyda’r danfoniadau nwyddau ar-lein. Cofiwch dynnu’r holl dâp gludiog yn gyntaf, a fflatio unrhyw focsys. Ac ar Ă´l i’r Nadolig ddod i ben, cofiwch ailgylchu’r cardiau i gyd, ond ichi dynnu unrhyw rubanau’n gyntaf, ac unrhyw ddarnau sy’n cynnwys llwch llachar.
• Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o’r plastig sydd i’w gael o gwmpas y cartref; poteli diodydd, nwyddau glanhau a photeli nwyddau ymolchi, fel poteli siampĹľ a gel cawod. Cofiwch wagio, gwasgu a rhoi’r caead yn Ă´l arnynt cyn eu hailgylchu. Cofiwch hefyd dynnu unrhyw bwmp neu chwistrell o’r botel yn gyntaf gan nad oes modd ailgylchu’r rhain. Gallwch hefyd ailgylchu’r tybiau plastig mawr o siocled a losin sy’n llenwi’r tš dros y Dolig!
• Peidiwch anghofio’r ffoil y Nadolig hwn. Cofiwch ailgylchu’r casys ffoil o’r mins peis ac unrhyw ffoil glân neu heb ei staenio a ddefnyddiwyd wrth goginio dros y Dolig. Dylid gwagio a rinsio tybiau a chynwysyddion ffoil cyn eu rhoi allan i’w hailgylchu.
• Gellir ailgylchu caniau diodydd a thuniau bwydydd metel, yn ogystal ag erosolau gwag fel diaroglydd, gel eillio a chwistrell gwallt.
• Os byddwch chi’n ansicr beth y gellir ac na ellir ei ailgylchu, gallwch edrych ar y Lleoliad Ailgylchu gan Cymru yn Ailgylchu.
Gallwch ddysgu mwy am yr Ymgyrch Gwych a ffeithiau ac awgrymiadau ailgylchu ‘12 dydd Nadolig' gan Cymru yn Ailgylchu ar y wefan www.byddwychailgylcha.org.uk, cadwch lygad am yr hysbysebion ar y teledu, gwrandewch ar yr hysbyseb ar y radio, ac ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha


* Arolwg Tracio Ailgylchu Cenedlaethol WRAP (Cymru), Hydref 2020
** StatsCymru