Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ymchwilio i ddau achos arall o'r frech goch sydd wedi'u cadarnhau yn ardal Gwent, gan ddod â'r cyfanswm cyffredinol i bedwar achos unigol.Ìý
Mae cysylltiad rhwng y pedwar achos unigol gan iddynt fynd i leoliad gofal iechyd ar 21 Mawrth, ac felly mae brigiad o achosion wedi'i ddatgan.Ìý
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi cysylltiadau'r achosion unigol, ac yn rhoi cyngor i'w rhieni ar ba gamau i'w cymryd a gwybodaeth am arwyddion a symptomau'r frech goch. ÌýMae'r ddau glaf yn derbyn gofal priodol.Ìý
Meddai Beverley Griggs, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Achosion Amlasiantaeth:Ìý
“Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn ac mae'r achosion unigol wedi bod yn cynyddu ar draws y DU ac Ewrop yn ystod y misoedd diwethaf, felly nid yw'r datblygiad hwn yn annisgwyl.Ìý
“O ganlyniad i dystiolaeth glir o ledaeniad o'r achos cychwynnol, rydym wedi datgan brigiad o achosion o'r frech goch yn ardal Gwent.Ìý
“Rydym yn nodi cysylltiadau pob achos unigol a byddwn yn cysylltu â nhw i ddarparu cyngor ar symptomau a pha gamau i'w cymryd os oes angen iddynt geisio cyngor meddygol. Pan na fydd cysylltiadau wedi'u himiwneiddio, byddwn hefyd yn gofyn iddynt beidio â mynd i'r feithrinfa, lleoliad addysg neu leoliadau risg uchel eraill. Mae hwn yn gam gweithredu iechyd cyhoeddus arferol er mwyn helpu i atal achosion unigol pellach o'r frech goch yn y rhai sydd fwyaf mewn perygl.Ìý
“Gall rhieni sy'n pryderu am iechyd eu plentyn wirio'r symptomau arÌýÌýÌýÌý
“Os oes gan eich plentyn dwymyn a brech, mae'n bwysig iawn eich bod yn ffonio cyn cyrraedd, neu rhowch wybod i'r staff ar unwaith pan fyddwch yn cyrraedd eich meddygfa neu leoliad gofal iechyd arall, fel y gellir eu hynysu'n brydlon ac osgoi unrhyw drosglwyddiad pellach.â€Ìý
Gellir atal y frech goch drwy'rÌýÌýhynod effeithiol a diogel. Dylai rhieni/gwarcheidwaid wirio statws brechlyn MMR eu plentyn. Gallant wneud hyn drwy wirio llyfr coch eu plentyn neu fynd i wefan eu bwrdd iechyd lleol.
Ìý
Ceir rhagor o wybodaeth ynÌý
Mae risgiau peidio â chael eich brechu – i chi eich hun ac i eraill sy'n agored i niwed gan gynnwys babanod, menywod beichiog nad ydynt wedi cael y Ìýbrechlyn, pobl hÅ·n a'r rhai sydd â systemau imiwnedd gwannach.