16 – 22 Tachwedd 2020
Bydd pobl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn ymuno â miliynau o amgylch y byd yn y dathliad mwyaf o entrepreneuriaeth. Bydd dros 180 o wledydd yn dathlu, gyda dros 40,000 o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn ystod yr wythnos – yn cysylltu cyfranogwyr gyda chydweithwyr posibl, mentoriaid a buddsoddwyr. Mae Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd yn ysbrydoli pobl ym mhobman drwy weithgareddau lleol, cenedlaethol a byd-eang a gynlluniwyd i’w helpu i ymchwilio eu potensial fel hunan-gychwynwyr ac arloeswyr a bydd Blaenau Gwent yn ymuno yn y dathliadau. Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau yr wythnos hon yn y Fwrdeistref ar gyfer busnesau ac entrepreneuriaid newydd a phresennol:
Dydd Llun 16
Rhwydwaith Busnes Menywod
Adroddiad Chwarae Teg, Cyflwyniad Sara Flay a C&A cyffredinol 10:30am - 12pm
Gweminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau:
Sylfeini Marchnata Digidol 9:30am - 11:30am
Marchnata Digidol Uwch 10:30am - 12:30pm
Gwefannau 12pm - 2pm
Dydd Mawrth 17
Diwrnod Clinig Busnes:
Cyfle i gwrdd cynghorwyr Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru a CBSBG 10am - 3pm
Gweminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau:
Sylfeini Marchnata Digidol 9:30am - 11:30am
Marchnata Digidol Uwch 10:30am -12:30pm
Gwefannau 12pm - 2pm
Dydd Mercher 18
Cymhorthfa Syniadau Mawr Cymru Cymorth syniadau busnes ar gyfer rhai 18-25 oed. Ffoniwch 01495 355700 i drefnu apwyntiad 10:30am - 12:30pm
Cyflymu Cymru i Fusnesau Sylfeini Cyfryngau Cymdeithasol 2pm - 4pm
Effaith Net BG Rhwydweithio Busnes Rhyngweithiol 5:30pm - 7pm
Dydd Iau 19
Gweminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau:
Y Swyddfa Ar-lein 11:30am - 1pm
Cyfryngau Cymdeithasol Uwch 2pm - 4pm
Dydd Gwener 20
Cronfa Effaith BG – Apwyntiadau cymorth dechrau busnes Ffoniwch y Tîm Arloesedd Busnes ar
01495 355700 i drefnu apwyntiad 10am - 12pm
Gweminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau:
Y Swyddfa Ar-lein 11:30am - 1pm
Cyfryngau Cymdeithasol Uwch 2pm - 4pm
I archebu ewch i: www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk neu ffonio 01495 355700
Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygu Economaidd, Cyngor Blaenau Gwent:
“Mae hwn yn gyfle gwych i gydnabod a dathlu entrepreneuriaid a busnesau ym Mlaenau Gwent. Mae’n gyfnod anodd i fusnesau ac entrepreneuriaid ac mae angen i ni gydnabod y rhai sy’n gweithio drwy’r flwyddyn i’w wneud yn llwyddiant. Maent yn hanfodol i’r economi lleol a hefyd i economi y Deyrnas Unedig.
Yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, mae Tîm Datblygu Economaidd Cyngor Blaenau Gwent yn trefnu ac yn hwyluso nifer o ddigwyddiadau ar gyfer rhai a all fod â syniad ar gyfer dechrau busnes neu p’un ai ydych yn fusnes presennol ac felly yn ystyried tyfu. Bydd digwyddiadau i ddarparu ar gyfer y gwahanol gynulleidfaoedd targed tebyg i fenywod mewn busnes, helpu pobl ifanc i ddod yn entrepreneuriaid yn yr oes ddigidol a chyfleoedd rhwydweithio.
Mae cyngor a chymorth busnes ar gael drwy’r flwyddyn drwy nifer o ddigwyddiadau a llwyfan busnes ar-lein rhad ac am ddim o’r enw Hyb Busnes Blaenau Gwent.â€
I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru gyda Hyb Busnes Blaenau Gwent ewch i: www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk