¹û¶³´«Ã½app

Digwyddiad lansio The Stute Café yn Institiwt Blaenau

Agorodd tîm Opsiynau Cymunedol Gwasanaethau Cymdeithasol gaffe cymunedol yn Institiwt Blaenau yn ddiweddar. Mae’r caffe yn bartneriaeth gyda Blaina Community Institute Limited ac mae’n cynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith a gwirfoddoli gwerthfawr i oedolion gydag anableddau i ddatblygu sgiliau bywyd, cymdeithasol a chyfleoedd gwaith o fewn byd arlwyo a lletygarwch.

Dywedodd Mary Welch, Rheolwr Opsiynau Cymunedol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r fenter gyffrous yma wedi rhoi cyfle i ni weithio gyda grŵp cymunedol yn y Blaenau fel y gallwn roi bywyd newydd i un o adeiladau hanesyddol Blaenau Gwent a hefyd ddangos talentau arlwyo y staff o fewn Gofal Cymdeithasol ac yn bwysig, gynnig lleoliadau gwaith y mae angen mawr amdanynt i’r rhai yr ydym yn eu cefnogi. Mae’r cynllun hwn yn adeiladu ar y gwaith datblygu a wnaethom eisoes gyda Gwasanaethau Prydau Cymunedol Blaenau Gwent, lle’r ydym yn cynnig te prynhawn a snaciau ysgafn i’w dosbarthu o ddrws i ddrws gyda chiniawau canol-dydd traddodiadol ar gyfer y bobl hynny na all baratoi eu bwyd eu hunain.â€

Agorodd y caffe ei ddrysau ym mis Medi 2023 a’r wythnos hon fe wnaethant gynnal parti i ddathlu’r agoriad ac i ddiolch i’r holl bobl a weithiodd yn ddiflino i agor y fenter. Yn ymuno â’r staff gofal cymdeithasol a’r myfyrwyr arlwyo yn y parti agoriadol roedd cynrychiolwyr o’r cyngor lleol, aelodau etholedig, aelodau a ffrindiau pwyllgor Institwt Blaenau a grwpiau cymunedol ehangach tebyg i Gymdeithas Cartrefi Tai Calon a ddarparodd gyllid grant i adnewyddu’r caffe ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin sy’n gweithio yn adeilad hanesyddol Institiwt Blaenau.

Cipiwyd yr uchod gan y Cynghorydd Chris Smith, y cynghorydd Hayden Trollop a'r cynghorydd Tommy Smith a fynychodd y digwyddiad lansio.

Yn y lansiad dywedodd y Cyng Hayden Trollop (Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol): “Mae’r gweithio partneriaeth yn y Stute Café rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Blaenau Gwent a phwyllgor rheoli Institiwt Blaenau wedi galluogi’r Cyngor i symud ymlaen â dwy flaenoriaeth allweddol sef hyrwyddo cynhwysiant a phwysigrwydd cymuned. Ar ran Cyngor Blaenau Gwent, hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’r prosiect blaengar hwn a gobeithiaf y bydd pobl Blaenau a’r trefi o amgylch yn cwrdd yn y safle cymunedol gwych hwn am flynyddoedd lawer i ddod.â€

Mae’r caffe eisoes wedi profi’n llwyddiant ers ei agor a chaiff ei groesawu fel safle i’r gymuned gwrdd am sgwrs gyda theisennau newydd eu pobi, paninis neu ddim ond dishgled o de 4 diwrnod yr wythnos – dyddiau Mawrth i ddyddiau Gwener rhwng 9am-4pm. Mae Stute Café yn: Institiwt Blaenau, Stryd Fawr, Blaenau, NP13 3BN.

Cliciwch yma i weld y fwydlen.

Ìý