Cafodd dyn o Nantyglo ei ddirwyo a’i orchymyn i dalu costau glanhau am ddau ddigwyddiad o dipio anghyfreithlon yn ardal Blaenau Gwent.
Erlynwyd Jordan Oadley, o Dale View, am 10 trosedd yn ymwneud â dau ddigwyddiad ar ôl cael ei dalu gan aelodau o’r cyhoedd i gael gwared â’u gwastraff. Cafodd ei gyhuddo o droseddau yn cynnwys achosi yn wybodus i wastraff a gaiff ei rheoliÌý gael ei waredu o gerbyd modur, methiant i atal gwaredu heb awdurdod ar wastraff a reolir, methu atal gwastraff dan ei reolaeth rhag dianc, yn wybodus yn gwaredu â gwastraff a reolir a methu yn ei ddyletswydd i sicrhau y cafodd disgrifiad ysgrifenedig o wastraff ei drosglwyddo wrth gyfnewid gwastraff.
Cododd ynadon yn Llys Ynadon Cwmbrân ddirwy o £480 ar Oadley a’i orchymyn i dalu £300 o gostau glanhau.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd:
“Yma mae gennym erledigaeth lwyddiannus arall am dipio anghyfreithlon diolch i’n hymagwedd dim goddefgarwch ac ymroddiad i gael gwared o’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yma yn ein cymunedau. Byddwn yn parhau i weithio i ddal i gyfrif y lleiafrif sy’n dangos diffyg parch at ein hamgylchedd naturiol. Mae’r neges yn glir – ni fyddwn yn goddef tipio anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent.
“Rwy’n annog unrhyw un sy’n talu i rywun symud gwastraff i sicrhau fod gan y person drwydded lawn a’u bod wedi cofrestru i wneud hynny, fel arall gallech hefyd fod yn agored am ddirwy. Mae’n gyflym ac yn rhwydd edrych ar y gofrestr ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru .â€
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý