Mae rhybuddion tywydd am wynt a glaw wedi eu cyhoeddi ar gyfer Blaenau Gwent y penwythnos yma. Gweler y wybodaeth ddiweddaraf a rhybuddion yma:
Ceisiwch fod yn barod bob amser ar gyfer tywydd garw. Rydym yn cyfeirio at gyngor ar ein sianeli ar sut i gadw’n ddiogel a gwirio’ch risgiau yn ystod y cyfnod hwn.
Rydym yn paratoi ar gyfer y rhagolygon a bydd criwiau yn cael eu lleoli ar draws y fwrdeistref yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y llifogydd diweddar, ac yn barod i ymateb i unrhyw ddigwyddiadau a achosir gan wyntoedd cryfion.
Mae criwiau yn monitro'r ardaloedd yn agos a byddant yn barod i ymateb i unrhyw achosion o lifogydd. Mae gwaith ataliol yn cael ei wneud ar ddraeniau, gylïau, gratiau a chwlfertau yn yr ardaloedd hyn a mannau problemus eraill. Mae'r gwaith rhagweithiol hwn yn canfod a chlirio rhwystrau a malurion, er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd lleol.
Mae bagiau tywod mewn stoc yn barod. Mae rhai eisoes ar gael mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt y tro diwethaf ac mae mwy yn barod i'w dosbarthu yn ôl yr angen.
Rydym yn ymwybodol o'r broblem barhaus gyda'r draeniad/cwlfer yn Stryd Rheilffordd, Llanhiledd. Mae ymchwiliadau'n parhau ond mae lefelau dŵr, sy'n parhau i fod yn uchel, yn effeithio arnynt. Yn ystod y rhybudd tywydd bydd gennym griw wedi ei leoli yn yr ardal hon gyda bagiau tywod ac offer priodol fel rhagofal.
Os gallwch, gwiriwch unrhyw un a allai fod yn agored i niwed.
Cysylltwch â ni ar 01495 311556 i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau.
Cyngor Llywodraeth y DU ar fod yn barod ar gyfer argyfyngau: