¹û¶³´«Ã½app

Diweddariad: Tir yn Heol Porthorion, Nant-y-glo.

Rydym yn parhau i ddelio â materion cyfreithiol mewn perthynas â darn o dir yn Heol Porthorion, Nant-y-glo. Yn gynharach eleni, gwnaed gwaith datblygu ar dir ar y safle yn absenoldeb caniatâd cynllunio gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor wedi derbyn Gorchymyn Gwaharddeb Derfynol gan yr Uchel Lys sy'n parhau i atal unrhyw ddatblygiad pellach o'r tir, ac sydd bellach yn cyfarwyddo'r tirfeddianwyr i wneud Gwaith Adfer Sefydlogrwydd ar y safle gan ddefnyddio cynllun gwaith a gymeradwywyd gan y Cyngor.

Mae'n rhaid i'r cynllun gwaith cymeradwy gael ei gyflawni gan Gontractwr Peirianneg Sifil cymwys a phrofiadol y mae'n rhaid i'r tirfeddianwyr roi ei fanylion yn ysgrifenedig i'r Cyngor cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle. Mae'r holl waith i'w wneud yn unol â'r Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu (2015) ac yn unol â'r rheoliadau iechyd a diogelwch diweddaraf. Bydd y gwaith yn cael ei oruchwylio gan beiriannydd annibynnol.

Unwaith y bydd y cloddwaith wedi'i gwblhau, mae'r safle i'w ffrwythloni a'i hydrohadu.

Mae'r Llys wedi gorchymyn y bydd y diffynyddion a enwir yn cynnal y Gwaith Adfer Sefydlogrwydd erbyn 31 Mai 2025 (neu unrhyw ddyddiad diweddarach os cytunir ar hynny yn ysgrifenedig gan y Cyngor).

Llinell amser:

5 Ebrill 2024:

Cyflwynwyd Hysbysiad Atal Dros Dro i dirfeddianwyr a phartïon â diddordeb ar 5 Ebrill 2024 gan ddefnyddio'r pwerau perthnasol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

1 Mai 2024:

Cafodd y Cyngor Waharddeb Uchel Lys Dros Dro yn datgan na fydd y tirfeddianwyr yn:

• Cyflawni nac achosi unrhyw waith peirianneg neu weithredoedd datblygu ar y Tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw, gan gynnwys ar ffurf codi unrhyw adeilad neu strwythur arall neu drwy newid defnydd perthnasol.

• Dod ag unrhyw garafán deithiol, cartref symudol nac unrhyw strwythur symudol arall i'r Tir, gan eithrio’r chwe charafán deithiol a oedd wedi'u lleoli ar y tir ar ddyddiad y waharddeb dros dro hon.

Roedd y Waharddeb Uchel Lys Dros Dro hefyd yn nodi na chaiff unrhyw berson ac eithrio’r tirfeddianwyr breswylio yn neu feddiannu (gan gynnwys drwy aros dros nos) unrhyw un o'r carafanau teithiol y caniateir eu cadw ar y tir. Roedd y Waharddeb Uchel Lys Dros Dro a roddwyd Ddydd Mercher 1 Mai 2024 yn orchymyn dros dro, gyda'r mater yn dychwelyd i'r Uchel Lys heddiw (Dydd Gwener 21 Mehefin 2024).

25 Mehefin:

Cafodd y Cyngor Waharddeb Uchel Lys Dros Dro bellach yn datgan:

·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Na fydd y tirfeddianwyr yn cyflawni nac achosi na chaniatáu i unrhyw waith peirianneg gael ei wneud ar y Tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Na fydd y tirfeddianwyr yn cyflawni nac yn achosi nac yn caniatáu i unrhyw weithred ddatblygu arall gael ei chyflawni ar y Tir (gan gynnwys datblygiad gweithredol ar ffurf codi unrhyw adeilad neu strwythur arall neu drwy newid defnydd perthnasol) heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Y bydd y tirfeddianwyr, heb fod yn hwyrach na 18:00 Ddydd Sul 23 Mehefin 2024 yn peidio â meddiannu, byw a/neu gysgu neu achosi neu ganiatáu i unrhyw berson feddiannu, byw a/neu gysgu mewn unrhyw garafán deithiol, cartref symudol neu unrhyw strwythur symudol arall ar y tir.

·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Y bydd y tirfeddianwyr yn symud o'r tir erbyn 17:00 Ddydd Llun 24 Mehefin 2024 bob carafán deithiol, y Portaloo, trelar a'r holl baraffernalia preswyl arall.

·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Na fydd y tirfeddianwyr wedi hynny yn achosi na chaniatáu i unrhyw garafán deithiol, cartref symudol, neu unrhyw strwythur symudol arall gael ei leoli ar y tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Na fydd y tirfeddianwyr wedi hynny yn achosi nac yn caniatáu parcio neu storio unrhyw gerbyd, peiriant neu beirianwaith ar y tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

4 Rhagfyr 2024:

Cafodd y Cyngor Orchymyn Gwaharddeb Derfynol. Mae hyn yn atgyfnerthu amodau'r gorchmynion blaenorol ar 25 Mehefin ac yn ogystal yn cyfarwyddo'r tirfeddianwyr i wneud gwaith adfer.