Cynhelir Diwrnod Cofio’r Holocost 2022 ar 27 Ionawr a thema eleni yw ‘Un Diwrnod’.
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn Un Diwrnod a neilltuwn i ddod ynghyd i gofio, dysgu am yr Holocost, erledigaeth gan y Natsiaid a’r hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur, yn y gobaith y gall fod Un Diwrnod yn y dyfodol heb unrhyw hil-laddiad. Dysgwn fwy am y gorffennol, cydymdeimlo gydag eraill heddiw, a gweithredu dros ddyfodol gwell.
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn adeg pan anelwn ddysgu gwersi’r gorffennol a chydnabod nad yw hil-laddiad yn digwydd ar ben ei hun – mae’n broses gyson a all ddechrau os na chaiff gwahaniaethu, hiliaeth a chasineb eu hatal.
Fe wnaeth yr Holocost fygwth ffabrig gwareiddiad ac mae’n rhaid i ni ddal i wrthwynebu hil-laddiad bob dydd. Mae ein byd yn aml yn teimlo’n fregus ac ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i bawb ohonom herio rhagfarn a iaith casineb.
I ddangos ymrwymiad y Cyngor i goffau Diwrnod Cofio’r Holocost, caiff Cloc Tredegar ei oleuo i ddangos gweithred o undod.
Bydd nifer o lyfrgelloedd tebyg i Lynebwy, Tredegar, Brynmawr, Blaenau, Cwm ac Abertyleri hefyd yn dangos gwaith disgyblion o ysgolion cynradd ar draws y fwrdeistref.
Derbyniodd ysgolion adnoddau gwybodaeth ar Y Diwrnod y derbyniodd Anne Frank ei Dyddiadur ar gyfer ei phen-blwydd yn 13 oed, 12 Mehefin 1942. Mae Anne yn disgrifio’r dyddiadur fel yr anrheg gorau a gafodd erioed ac fe’i defnyddio mewn modd i fynegi ei syniadau a theimladau mewn cyfnodau o ansicrwydd, dathlu ac erchyllter.
Cafodd disgyblion wedyn eu hannog i ysgrifennu’n ôl at Anne a mynegi ei syniadau a’i theimladau.
Mae goroeswyr yr Holocost a hil-laddiad yn aml yn siarad am Un Diwrnod pan newidiodd popeth, weithiau er gwaeth ac weithiau er gwell.
Mae Iby Knill yn teimlo y newidiodd popeth o Un Diwrnod i’r nesaf, ac eto doedd dim wedi newid:
“Un diwrnod, fe wnaeth Gretl, fy nghyfaill ysgol, fy nghyfarch gan fy nghofleidio. Y diwrnod nesaf rhedodd ar draws y ffordd a throi ei phen i ffordd er mwyn peidio fy nghydnabod.”
I Faiza, roedd diwrnod diffiniol. Yn dilyn rhyfel cartref yn 2003 a adawodd filiynau o bobl wedi eu dadleoli, mae llywodraeth Sudan wedi cefnogi milwyr Arabaidd sydd wedi dinistrio cannoedd o bentrefi a llofruddio miloedd o bobl.
Cafodd Faiza ei thargedu gan Lywodraeth Sudan am gefnogi dioddefwyr yr hil-laddiad, ac felly dywedodd:
“Un diwrnod penderfynais adael fy ngwlad. Roedd yn benderfyniad anodd, ond nid oedd ffordd arall. Gadewais fy nghartref, fy nghyfeillion, fy mhobl; gadewais bopeth oedd gennyf. Mae llyfr ar fwrdd yn agos at fy ngwely ar agor ar dudalen 49 yn aros amdanaf.”
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Moore, Hyrwyddwr Cydraddoldeb Cyngor Blaenau Gwent:
“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddiwrnod pwysig pan mae pawb yn ystyried yr Holocost a’r gweithredoedd arswydus o hil-laddiad a fu ym mhob rhan o’r byd. Mae thema eleni ‘Un Diwrnod’ yn un diwrnod i ni gyd oedi a chofio rhan o hanes na ddylem byth ei anghofio a gwneud yn glir yn benderfyniad na ddylent byth gael eu hailadrodd”.
Mae gwefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn adnodd gwych ar gyfer athrawon a rhieni sydd eisiau addysgu eu disgyblion/plant i ddysgu gwersi o’r gorffennol mewn ffyrdd creadigol, sy’n bwrw golwg yn ôl ac sy’n ysbrydoli.
I gymryd rhan, ymwelwch â gwefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost: