¹û¶³´«Ã½app

Diwrnod Shwmae 15 fed O Hydref

Mae'n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent nodi Diwrnod Shwmae, achlysur lle mae pobl ledled Cymru yn cyfarch eu gilydd gyda 'shwmae!' Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ein trigolion yn cymryd rhan yn y dathliad llawen hwn o’n hiaith annwyl. Ar Hydref y 15fed, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud 'shwmae' wrth bawb rydych chi'n cwrdd!

Mae’r Cyngor wrth ei fodd yn gweld nifer cynyddol o staff yn manteisio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg, diolch i adnoddau fel Dysgu Cymraeg a Duolingo.

Un o oleuadau disglair brwdfrydedd hon yw Luisa Munro-Morris, sydd wedi cymryd camau breision yn ei thaith Duolingo. Fel y Cyfarwyddwr Addysg, mae Luisa wedi ymrwymo i arwain trwy esiampl ac wedi plethu’r Gymraeg yn ddi-dor i’w bywyd bob dydd. Mae hi’n ddatgan yn angerddol, "fel Cyfarwyddwr Addysg, dylwn i fod yn fodel rôl ar gyfer dysgu Cymraeg." Mae ei hymroddiad a’i llawenydd wrth ddysgu Cymraeg yn y gwaith ac yn ei bywyd personol, yn ysbrydoliaeth bwerus i’w holl gydweithwyr.

Mae Andrew Parker, ein Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau, ar ddiwrnod 134 o'i rediad Duolingo. Ar ôl ystyried dysgu Cymraeg am gyfnod, mae Duolingo yn adnodd ardderchog. Trwy ymarfer yn ddyddiol a rhannu ei gynnydd gyda’r tîm, mae o wedi ysbrydoli eraill i ddechrau dysgu hefyd! Dywedodd “Rydw i wastad wedi bod eisiau gwella fy ngallu yn y Gymraeg, y tu hwnt i’r cyfarchion sylfaenol, ond wastad wedi cael trafferth gwneud amser ar gyfer y cyrsiau gyda fy ngwaith prysur a fy mywyd personol.  Mae Duolingo, wedi fy ngalluogi i wneud cynnydd da mewn amser byr, trwy neilltuo ychydig o amser o ddydd i ddydd.â€

Mynegodd un o’n haelodau tîm Canolfan Gyswllt ymroddedig, a gychwynnodd ar daith ddysgu’r Gymraeg ochr yn ochr â sawl cydweithiwr, ei brwdfrydedd: “Rwyf wrth fy modd i ddysgu Cymraeg nid yn unig i gynorthwyo ein cwsmeriaid sydd well ganddynt siarad Cymraeg, ond hefyd oherwydd, fel rhywun balch. Dwi’n dinesydd Cymreig, ac dwi’n hynod o falch i ddysgu iaith, mae fy nhiwtor Barry o Ddysgu Cymraeg yn wych!"

Beth sydd yn digwydd ym Mlaenau Gwent arno Diwrnod Shwmae?

Galwch draw a dweud ‘Shwmae’ i Crystal Cafe a Kenny's Vinyl Lounge yn Abertyleri a fydd yn dathlu popeth Cymreig, yn adrodd straeon traddodiadol Cymreig, yn chwarae cerddoriaeth Gymreig hyfryd ac yn gweini dewis o Bice ar y Maen fegan!

Byddwch yn ddiwylliannol yn sinema hynaf Cymru, bydd Sinema Neuadd y Marchnad ym Mrynmawr yn dangos addasiad Kevin Allen o Under Milk Wood gan Dylan Thomas, ac yna sesiwn holi-ac-ateb gyda Kevin ei hun!

Bydd y Llyfrgelloedd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ar y 15fed Hydref:

  • Bydd pob llyfrgell (eithrio Blaina) yn cynnal gweithgaredd crefftau draig plât papur - bydd hyn ar gael i'w wneud rhwng 3-4:30yp, ac yn addas ar gyfer plant 3-11 oed.
  • Bydd Cwm a Brynmawr yn cael Amser Te Cymreig. Bydd te a choffi ar gael rhwng 10-11yb gyda phice ar y maen.
  • Rhwng 3:30-4:30yp bydd llyfrgell Cwm yn cynnal amser stori gyda Bethan a'i draig pyped Dewi sy'n addas ar gyfer plant 3-7 oed!
  • Bydd gan Abertyleri a Thredegar weithdy blasu’r Gymraeg – 10-11yb
  • Sesiwn i ddechreuwyr pur ddysgu ymadroddion/geiriau Cymraeg sylfaenol a sut i gyflwyno eich hun.

Bydd llyfrgell Glyn Ebwy hefyd yn cynnal sesiwn i gwrdd ar awdur ‘Boneddiges Werdd Castell Caerffili’ ar ddydd Sadwrn y 19eg o Hydref!

Sut byddwch chi'n dathlu? Rhowch wybod i ni drwy anfon lluniau, fideos neu negeseuon i cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk , neu defnyddiwch #shwmae24 #shwmaesumae24 ar y cyfryngau cymdeithasol