Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi trosglwyddo rhydd-daliad Sinema Neuadd y Farchad ym Mrynmawr a hen adeilad cydffiniol y Llyfrgell yn ffurfiol i Grŵp Sinema a Chelfyddydau Neuadd y Farchnad.
Roedd y cynlluniau i drosglwyddo’r adeilad i fod i gael eu cwblhau ddechrau 2020, ond cawsant eu gohirio oherwydd pandemig COVID-19. Bu’n gyfnod anodd tu hwnt ar gyfer safleoedd celf a diwylliannol tebyg i Neuadd y Farchnad ac maent yn falch iawn i fod yn ôl ar agor ac yn croesawu cynulleidfa yn ôl i weld ffilmiau yn yr adeilad eiconig.
Mae’r cytundeb trosglwyddo sydd yn ei le yn sicrhau dyfodol y sinema hwn, sydd yn annwyl iawn i gynifer o bobl, ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer ychwanegu ail sgrin o fewn y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd Cyng Steve Thomas, Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Corfforaethol a Pherfformiad Cyngor Blaenau Gwent:
“Bu bob amser ddymuniad oedd yn cael ei rannu i sicrhau dyfodol cynaliadwy a llwyddiannus ar gyfer y safle pwysig a phoblogaidd iawn yma.
“Mae Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn llwyddiannus ledled Blaenau Gwent, gan helpu i gadw a hyd yn oed wella cyfleusterau cymunedol a chwaraeon i bobl eu defnyddio a’u mwynhau.
 “Bu gwir ddull gweithredu partneriaeth gan y Cyngor a’r Ymddiriedolwyr i gyrraedd y pwynt tirnod hwn ar gyfer y Sinema, a gyda chynlluniau ar gyfer ail sgrin yn yr arfaeth edrychwn ymlaen at ei weld yn mynd o nerth i nerth.â€
Dywedodd Beth Watkins, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Sinema a Chelfyddydau Neuadd y Farchnad:
“Rydym yn falch iawn i fod yn awr mewn sefyllfa lle gallwn ddechrau ein cynlluniau i ddatblygu Neuadd y Farchnad, gan sicrhau ei ddyfodol a sicrhau y gallwn barhau i ddarparu sinema a mynediad i’r celfyddydau i bobl Blaenau Gwent.
“Mae’r gallu i ddarparu hyn yng nghanol Brynmawr mewn lleoliad mor hanesyddol yn gyffrous ac yn rhywbeth yr ydym ni, fel elusen, yn angerddol amdano.â€