Ìý
Mae brechu a defnydd triniaethau newydd a all atal salwch difrifol, yn arbennig ar gyfer pobl sy’n glinigol fregus, wedi dileu’r angen am brofion cymunedol rheolaidd.
Bydd offer profi ar gael i’w archebu ar gyfer pobl yn y grŵp triniaeth Covid sy’n parhau i fod ynÌý fregus. Mae hyn yn garfan o tua 60,000 o bobl gyda chanser, clefyd ar yr arennau neu’r afu, syndrom Down neu’r rhain sydd ag imiwnedd isel iawn.
Bydd offer LFD ar gael drwy archebu ar-lein, neu drwy ffonio llinell gymorth 119 GIG i unigolion yn y grŵp hwn a’u cysylltiadau agos yn unig. Cysylltir ag unigolion yn y grŵp triniaeth i sicrhau eu bod yn gwybod sut i gael profion
Bydd mannau casglu cymunedol a fferyllfeydd ar gael tan 31 Mawrth ond mae’r stoc yn gyfyngedig a gofynnwn i chi fod yn ystyriol wrth ofyn am gyflenwadau.
Ar ôl 31 Mawrth rydych yn gymwys i gael profion LFD ar-lein drwy ffonio 119 os:
- oes gennych symptomau Covid-19
- yw meddyg neu arbenigwr wedi dweud eich bod yn gymwys am driniaethau COVID-19 newydd. Mae mwy o wybodaeth am driniaethau yma:
- ydych yn mynd i ymweld â rhywun sy’n gymwys am driniaethau newydd COVID-19
- yw eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn i chi gymryd prawf
- oes gennych COVID-19 ac eisiau gwirio os yw eich canlyniad prawf yn dal yn gadarnhaol ar ôl diwrnod 5