Mae Cyngor Blaenau Gwent yn llongyfarch ein holl ddisgyblion TGAU ar eu cyflawniadau heddiw.
Mae myfyrwyr ym mhob un o’n hysgolion uwchradd wedi cyflawni’n dda ar draws ystod eang o gymwysterau TGAU, ac unwaith eto mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud mewn sawl maes allweddol.
Ymwelodd yr Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg, y Cynghorydd Sue Edmunds a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg, Luisa Munro-Morris, â phedwar safle uwchradd y fwrdeistref i longyfarch disgyblion a diolch i staff a llywodraethwyr ysgolion.
Meddai’r Cynghorydd Sue Edmunds:
“Mae ein pobl ifanc ym Mlaenau Gwent unwaith eto wedi cyflawni’n wych ar draws ystod eang o bynciau. Bydd y disgyblion hyn wedi astudio drwy’r oes COVID-19 a’r heriau niferus i Addysg a ddaeth yn ei sgil, ac felly mae eu cyflawniadau heddiw hyd yn oed yn fwy rhyfeddol! Fodd bynnag, ni fyddent wedi gallu ei wneud heb ymroddiad a chefnogaeth staff yr ysgol a’u teuluoedd eu hunain, felly diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.
“Mae ein hysgolion yn parhau i weithio’n galed i wneud yn siŵr bod ein pobl ifanc wedi’u paratoi’n dda ar gyfer cam nesaf eu taith ddysgu, beth bynnag fo hynny, a hoffem ddymuno’r gorau iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol.â€
Ìý
Meddai’r Dr Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg ym Mlaenau Gwent:
“Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr ym Mlaenau Gwent ac ar draws rhanbarth Gwent. Mae’r gwaith partneriaeth agos rhwng ein hysgolion, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a’r Cyngor, gan gynnwys gwasanaethau cymorth, yn rhoi plant a phobl ifanc yn gadarn wrth galon ein holl waith a’n penderfyniadau. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion a dysgwyr yn parhau i gael eu cefnogi’n dda wrth iddynt symud ymlaen drwy’r system addysg yma ym Mlaenau Gwent.
Dymunaf bob lwc a dymuniadau gorau i’n dysgwyr ar gyfer y dyfodol.â€